Archwilio coetiroedd Hynafol Gŵyr
Dewch i ddarganfod cyfaredd coetiroedd hynafol yn y gyfres hon o chwe thaith gerdded o gwmpas ardal Gŵyr.
Gyda chyfoeth o fywyd gwyllt, harddwch ac awyrgylch, mae coetiroedd hynafol yn un o'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.
Dros ganrifoedd o orchudd coedwigol di-dor, maent wedi datblygu cymunedau cymhleth o goed, planhigion, ffyngau a micro-organebau sy'n cynnal llu o rywogaethau anifeiliaid. Gallant hefyd gynnwys cyfoeth o olion archaeolegol - cliwiau ynglŷn â'u pwysigrwydd hanesyddol i bobl fel ffynhonnell pren, tanwydd a bwyd. Er eu bod bob amser yn ddiddorol, mae'n debyg bod coetiroedd hynafol ar eu gorau yn y gwanwyn pan fo blodau llawr y coetir yn eu hanterth.