Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Teithiau cerdded yng nghefn gwlad

Dewch i ddarganfod harddwch cefn gwlad ac arfordir Abertawe a Gŵyr ar droed.

Os ydych yn chwilio am daith gerdded yng nghefn gwlad neu ar yr arfordir, mae llawer o lwybrau ar gael o gwmpas Abertawe a Gŵyr. Gellir gweld y gorau o gefn gwlad y sir ar bob un o'r llwybrau. Gyda llwybrau'n dechrau o 1km i 61km, mae rhywbeth ar gael i bawb. Mae ein troeon yn cynnwys teithiau cerdded mewn coetiroedd hynafol a throeon y gellir eu cyrraedd ar fws.

Archwilio coetiroedd Hynafol Gŵyr

Dewch i ddarganfod cyfaredd coetiroedd hynafol yn y gyfres hon o chwe thaith gerdded o gwmpas ardal Gŵyr.

Llwybrau cerdded arfordirol

Gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru, adrannau Bae Abertawe a Gŵyr a'n teithiau cerdded mwy traddodiadol yn ardal Gŵyr.

Teithiau 'Mynd i gerdded ar y bws'

Gellir cyrraedd pob un o'r teithiau cerdded hyn ar y bws ac maent rhwng 1¼ a 3 milltir o hyd.

Taith gerdded hir Illtud Sant

Taith gerdded hir (tua 64 milltir) o Ben-bre i Fargam ar draws dir amrywiol, camlesi, coetiroedd a bryniau hamddenol sy'n croesi afonydd Casllwchwr, Tawe, Castell-nedd ac Afan.

Teithiau cerdded cylchol

Teithiau cerdded cylchol gwledig ychydig yn hirach gan gynnwys Cwm Clydach a Graig Fawr.

Cerdded yn agos i dda byw

Un o nodweddion arbennig Gŵyr yw'r ardaloedd mawr o iseldir rhostir comin lle gall ffermwyr â hawliau cominwyr bori eu da byw. Os ydych chi'n bwriadu cerdded yn yr ardaloedd hyn, bydd rhaid i chi gofio nifer o bethau.
Close Dewis iaith