Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestru'n anabl

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o bobl anabl, mae cofrestru'n wirfoddol.

Erbyn hyn, nid oes angen cofrestru'n anabl at ddibenion cyflogaeth. Er mwyn cofrestru, mae'n rhaid bod anabledd neu amhariad gennych sy'n sylweddol ac yn barhaol h.y. disgwylir iddo bara am fwy na 12 mis.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau, buddion a chonsesiynau sydd ar gael i bobl anabl ond yn gofyn bod pobl yn bodloni'r meini prawf i gofrestru ac nid i gofrestru mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae ychydig o fuddion sydd ar gael dim ond i bobl sy'n cofrestru'n anabl. Mae rhai pobl yn cael bod cofrestru'n anabl yn ei gwneud yn symlach i wneud cais am rai o'r buddion a chonsesiynau y mae hawl ganddynt iddynt.

Y broses gofrestru

Ar gyfer pobl sydd wedi colli golwg neu glyw cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd.

Ar gyfer pobl ag anabledd corfforol cysylltwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu cysylltwch â'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol.

Ar gyfer plant ag anableddau mae cofnod ar wahân sef y  Mynegai Anabledd Plant.

Cwestiynau cyffredin am gofrestru fel person anabl

Mae cofrestru fel person anabl yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwybod pwy allai elwa o'r gwasanaethau lleol sydd ar gael i hyrwyddo lles pobl anabl.

Cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Er mwyn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol am y tro cyntaf bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl gysylltu ag un o'r timau a rhestrir isod.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Awst 2021