Toglo gwelededd dewislen symudol

Casgliad gwastraff gardd

Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu bob pythefnos ar eich wythnos binc.

Ni fydd casgliadau gwastraff gardd yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Gan ddibynnu ar bryd y mae eich casgliad gwastraff gardd (wythnos binc), bydd eich casgliad olaf eleni naill ai yn ystod wythnos 17 Tachwedd neu wythnos 24 Tachwedd. Bydd eich casgliad cyntaf yn 2026 naill ai yn ystod wythnos 2 Chwefror neu wythnos 9 Chwefror.

Os nad ydych yn siŵr pryd mae eich casgliad wythnos binc, defnyddiwch y chwiliad ailgylchu.

Yn ystod yr amser hwn, gallwch fynd ag unrhyw wastraff gardd i'ch canolfan ailgylchu leol neu ei storio/gompostio gartref nes bod y casgliadau'n ailgychwyn.

Garden waste recycling bag.

Gellir prynu bagiau gwastraff gardd o am £2.50 yr un o llyfrgelloedd a swyddfeydd dai.

Er mwyn sicrhau y cesglir eich bagiau ar gyfer ailgylchu:

  • yr unig fagiau y dylech eu defnyddio yw'r rhai rydym yn eu darparu.
  • rhowch eich bagiau allan i'w casglu ar ol 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a chyn 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
  • peidiwch a rhoi mwy na 10 bag gardd allan ar gyfer pob casgliad
  • sicrhewch nad yw'ch bag yn rhy drwm (dan 15kg)
  • ceisiwch atal eich bagiau rhag mynd ar grwydr trwy ysgrifennu rhif eich tŷ arnynt
  • defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch bagiau

Beth i'w roi yn y bagiau

Diolch yn fawr

Gallwch roi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:

  • toriadau lawnt
  • toriadau llwyni
  • dail a phlanhigion
  • ffyn a brigau
  • blodau a chwyn
  • gwelyau anifeiliaid sglodion pren a gwair (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion yn unig)
  • coed Nadolig go iawn (wedi'u torri i fyny)

Dim diolch

Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:

  • gwastraff ci a chath
  • gwastraff bwyd
  • planhigion ymledol, e.e. canclwm Siapan
  • canghennau mawr neu foncyffion
  • bagiau plastig
  • pridd neu compost
  • cerrig neu rwbel
  • pren ee ffensys, siediau a pystiau

Angen mwy o sachau ailgylchu?

Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosib i chi ailgylchu. Er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o sachau a biniau, maent ar gael oddi wrth nifer o leoedd.

Casgliad a gollwyd

Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Hydref 2025