Toglo gwelededd dewislen symudol

Craffu

Mae craffu'n ymwneud â gofyn cwestiynau sy'n mynd at wraidd mater. Mae hyn yn golygu cyrraedd rhan bwysig y sefyllfa neu'r broblem.

Arweinir gwaith craffu gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol. Yng Nghyngor Abertawe mae 75 o gynghorwyr.

Mae nifer bach o'r Cynghorwyr hyn yn Aelodau Cabinet a elwir hefyd yn Aelodau Gweithredol. Nhw yw'r prif wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau yn y cyngor. Mae gan bob Aelod Cabinet bortffolio gwahanol o wasanaethau yn y cyngor y mae'n gyfrifol amdanynt.

Mae gan weddill y cynghorwyr gyfle i fod yn rhan o'r broses graffu. Eu rôl yn y maes craffu yw dal yr Aelodau Cabinet i gyfrif, bod yn llais y cyhoedd a helpu i ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus y cyngor. Cyfeirir at gynghorwyr sy'n rhan o'r gwaith craffu fel Cynghorwyr Craffu.

Mae hefyd dîm o Swyddogion Craffu sy'n staff y cyngor sy'n rhoi cyngor a chymorth.

Beth yw'r broses graffu?

Trefnir gwaith cyffredin tîm Craffu Abertawe gan Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor. Maent yn trefnu ac yn rheoli'r hyn y bydd Craffu'n edrych arno bob blwyddyn.

Pa waith ydy'r tîm Craffu'n ei wneud ar hyn o bryd?

Sut i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn y mae craffu'n ei wneud nawr ac ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Ydych chi'n chwilio am agenda, llythyr neu adroddiad?

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i'n gwefan cynghorwyr, cyfarfodydd ac agendâu. Mae holl agendâu ac adroddiadau'r cyfarfodydd a phwyllgorau ar gael ar y dudalen hon, gan gynnwys pob pwyllgor Craffu.

Oes gennych bwnc yr hoffech i ni graffu arno?

Gall pawb sy'n bwy neu'n gweithio yn ein dinas a sir wneud cais i'r tîm Craffu ystyried materion sy'n effeithio ar ein cymuned.

Hoffech chi ofyn cwestiwn i Aelod y Cabinet

Mae'r tîm craffu'n cynnal sesiynau holi ac ateb rheolaidd ag Aelodau Cabinet.

Craffu

Enw
Craffu
Rhif ffôn
01792 637732

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mai 2024