Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025

Rydym yn awr yn gwahodd ceisiadau i Gronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025.

Rydym yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr chwarae newydd a phresennol sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel.

Rydym yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr gofal plant a chwarae newydd a phresennol sydd wedi ystyried eu sefyllfa ariannolac sydd angen cymorth cynaladwyedd i barhau i ddarparu cyfleoedd gofal plant a chwarae o ansawdd uchel.

Gall darparwyr gofal plant gysylltu â Swyddog Cynllunio a Gweithredu Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar drwy e-bostio ruth.james@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2024 / 2025.

Gwybodaeth am y gronfa

Mae Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024/2025 yn gronfa sefydledig sy'n ceisio creu, cefnogi a chynnal cyfleoedd gofal plant a chwarae yn Abertawe. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr cofrestredig ac anghofrestredig.

Argaeledd y gronfa

Gellir gwneud cais am uchafswm o £5,000 ar gyfer unrhyw gais (£2,000 ar gyfer gwarchodwr plant) Dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dyfernir symiau dros y swm hwn mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i'r cyllid a ddyfarnwyd gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2025. Mae swm cyfyngedig o gyllid ar gael. Nid yw ceisiadau wedi'u gwarantu a chânt eu blaenoriaethu yn erbyn meini prawf yn unol â Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2024 / 2025 - amodau'r grant.

Gallwch e-bostio'r tîm yn fis@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Mae staff hefyd ar gael dros y ffôn:

Swyddogion Cefnogi Gwasanaethau ar gyfer pob ymholiad
Leanna Cresci Swyddog Cefnogi Gwasanaethau ar gyfer ymholiadau Chwarae: 07873 308004

Gofynion cyn ymgeisio

Camau y mae'n rhaid i chi eu dilyn cyn cyflwyno'ch cais am grant.
Close Dewis iaith