Cwestiynau cyffredin am ddewis cartref gofal
Pethau i'w hystyried wrth ddewis cartref gofal preswyl sy'n addas i chi.
Ydy cartref gofal yn ddewis sy'n addas i fi?
Pa help gallaf ei gael gan y Gwasanaethau Cymdeithasol?
A fyddaf yn derbyn cymorth gyda chost cartref gofal?
Pwy ydw i'n cysylltu â nhw i gael cymorth?
Oes mathau gwahanol o gartrefi?
A allaf ddewis mynd i unrhyw gartref?
Pa ddogfennau gallaf ofyn am eu gweld?
A allaf ymweld â'r cartref cyn penderfynu?
Am beth y dylwn feddwl wrth ddewis cartref?
Pa gwestiynau dylwn i eu gofyn?
Beth sy'n digwydd os yw fy anghenion gofal yn newid?
Rydym yn ceisio cefnogi pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy helpu gydag anghenion pob dydd. Yn y pendraw, efallai na fydd y sefyllfa hon bellach yn bosibl. Os a phan fydd y sefyllfa hon yn digwydd, gallwn eich helpu i drefnu a dod o hyd i ofal mewn cartref preswyl neu nyrsio sy'n addas i chi.
Ydy cartref gofal yn ddewis sy'n addas i fi?
Weithiau mae salwch neu ddamwain yn gallu effeithio ar eich gallu i ymdopi yn eich cartref eich hun ac efallai mai symud i gartref gofal yw'r ateb gorau. Neu, efallai eich bod yn teimlo'n fwyfwy bregus ac yn ei chael hi'n anodd gwneud pethau eich hunan. Ond cofiwch gall fod dewisiadau eraill y gallwch eu hystyried, megis gofal yn y cartref neu dai gofal ychwanegol. Neu efallai y byddai'n well i chi aros mewn cartref gofal dros dro wrth i chi ymadfer. Gallwch drafod y rhain gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Pa help gallaf ei gael gan y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Gallwn ddarparu rhestr o gartrefi gofal yn yr ardal i chi a manylion ynghylch ble i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch hefyd ofyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal asesiad o'ch anghenion. Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol efallai bydd asesiad yn ddefnyddiol i chi. Bydd hyn yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal yn ymweld â chi a holi am y pethau yr ydych yn eu cael yn anodd ymdopi â nhw yn eich cartref. Bydd yr asesiad yn ein galluogi i nodi eich anghenion.
Yn dilyn yr asesiad, os byddwn yn cytuno mai symud i gartref gofal yw'r ffordd orau o ddiwallu eich anghenion, gallwn ddweud wrthych am y cartrefi fydd yn gallu diwallu'r anghenion penodol hynny.
A fyddaf yn derbyn cymorth gyda chost cartref gofal?
Gan ddibynnu ar faint o arian sydd gennych, efallai gallwch gael help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol tuag at gostau'r ffioedd. Gall hyn fod yn gymhleth, mae gennym ragor o wybodaeth ar ein tudalen talu am ofal preswyl sy'n esbonio'r rheolau a'r prosesau ar gyfer cymorth ariannol.
Bydd disgwyl i breswylwyr gofal cartref sy'n derbyn cymorth ariannol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dalu swm tuag y gost, ond ni fyddwn yn gofyn i chi dalu mwy nag y gallwch ei fforddio.
Pwy ydw i'n cysylltu â nhw i gael cymorth?
Er mwyn cael cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol gallwch chi, ffrind neu berthynas gysylltu â ni drwy Dîm Derbyn y Gwasanaethau Oedolion.
Os ydych yn glaf mewn ysbyty, siaradwch â'r tîm gwasanaethau cymdeithasol a leolir yno neu staff yr ysbyty.
Oes mathau gwahanol o gartref?
Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt bellach yn gallu byw gartref, hyd yn oed gyda chefnogaeth. Byddai'r cymorth a roddir gan staff y cartref yn dibynnu ar eich anghenion unigol. Gallai gynnwys codi a mynd i'r gwely, help gydag ymolchi, gwisgo neu ddefnyddio'r tŷ bach a helpu gyda phrydau bwyd. Dylai'r cartref hefyd ddarparu ymdeimlad o ddiogelwch, cwmnïaeth ac ystod o weithgareddau cymdeithasol.
Gallai cartrefi hefyd fod yn gofrestredig i ddarparu anghenion gofal penodol e.e. ar gyfer dementia neu anabledd corfforol.
Mae rhai cartrefi hefyd yn cynnig gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol. Mae hyn yn golygu y darperir gofal rheolaidd yn y cartref gan nyrs neu feddyg cofrestredig.
Bydd y math o gartref gofal sy'n fwyaf addas i chi yn dibynnu ar faint o ofal y bydd ei eisiau arnoch. Bydd asesiad y gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i bennu beth sy'n addas i chi. Efallai yr hoffech ystyried neu siarad am eich anghenion tebygol yn y dyfodol hefyd. Er enghraifft, os byddwch yn mynd i gartref nad yw'n cynnig gofal nyrsio, bydd rhaid i chi symud os bydd eich anghenion gofal yn newid yn y dyfodol a bod angen gofal nyrsio arnoch.
Gall cartrefi gael eu rhedeg gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gwmnïau arbenigol neu gan unigolion preifat, ond bydd pob un yn cael ei gofrestru gan AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) (Yn agor ffenestr newydd).
A allaf ddewis mynd i unrhyw gartref?
Gallwch ddewis mynd i unrhyw gartref sy'n gallu diwallu eich anghenion a aseswyd ac sy'n gallu cynnig lle i chi. Mae'r cartrefi sydd ar gael yn lleol wedi'u henwi ar y rhestr a roddwyd i chi gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i ddewis unrhyw gartref yn y wlad ond bod y cartref hwnnw'n gallu diwallu eich anghenion gofal ac yn bodloni'r safonau a osodir gan y llywodraeth. Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at eich ffioedd, dylent fod o fewn yr hyn y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu eu talu.
Efallai byddwch yn dewis mynd i gartref mwy drud nag y byddai'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei dalu amdano fel arfer, ond os byddwch, byddai'n rhaid i chi ddod o hyd i rywun i dalu'r costau ar eich rhan. (Nid ydych yn gallu talu'r gwahaniaeth eich hun). Yr enw am y trefniant hwn yw cytundeb trydydd parti a bydd eich rheolwr gofal / gweithiwr cymdeithasol yn gallu eich helpu gyda'r trefniadau hyn.
Pa safonau gallaf eu disgwyl?
Yn ogystal â gweithredu ei gartrefi gofal ei hun, mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gontractau gyda chartrefi gofal y sector-annibynnol i ddarparu llety gofal cartref ar ran yr awdurdod lleol. Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu cymorth gyda'ch ffioedd gofal cartref, byddai disgwyl i chi ddewis cartref sydd ar ein rhestr gymeradwy. Er mwyn cael eich cynnwys ar y rhestr, mae'r cartref yn cytuno i fodloni nifer o safonau. Mae'r rhain yn ymwneud â meysydd megis sut rydych yn derbyn gofal, sut mae staff wedi'u hyfforddi a'u rheoli, trefniadau ariannol a chyflwr yr adeilad.
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol weithdrefnau monitro ar gyfer llety mae'n ei brynu ar ran yr awdurdod lleol, ac mae'n gweithio gyda chartrefi gofal y sector annibynnol i gynnal a gwella safonau. Yn ogystal, mae'r AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) (Yn agor ffenestr newydd) yn arolygu pob cartref yn rheolaidd er mwyn sicrhau y bodlonir ei safonau. Ar ôl cynnal arolygiadau AGC, llunnir adroddiad am y cartref sy'n ddogfen gyhoeddus. Gallwch ofyn i'r cartref gofal ddangos copi o'i adroddiad AGC diweddaraf i chi neu gallwch gysylltu ag AGC (Yn agor ffenestr newydd) a gofyn am gopi o'r adroddiad, neu gallwch gael copi o'u gwefan.
Pa ddogfennau gallaf ofyn am eu gweld?
Yn gyfreithiol rhaid i bob cartref lunio canllawiau i ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n cynnwys datganiad o'r gwasanaeth a ddarperir. Bydd hyn yn dweud wrthych beth y gallwch ei ddisgwyl gan gartref a beth i'w wneud os oes gennych gŵyn.
Gallwch hefyd ofyn i weld copi o adroddiad arolwg diweddaraf AGC (fel y soniwyd uchod).
Cyn i chi symud i gartref, dylai fod gennych gontract ysgrifenedig gyda'r cartref. Os ydych yn talu'r ffioedd eich hun, bydd y contract rhyngoch chi a'r cartref. Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at y ffioedd, bydd y contract rhyngddyn nhw a'r cartref, ond dylech dderbyn copi.
A allaf ymweld â'r cartref cyn penderfynu?
Gallwch, os yw'n bosibl dylech ymweld ag unrhyw gartref cyn penderfynu symud yno. Bydd staff y cartref yn disgwyl hyn. Efallai yr hoffech ymweld â mwy nag un cartref ac efallai hoffech fynd â ffrind, perthynas neu rhywun sydd â diddordeb yn eich gofal chi. Efallai yr hoffech ofyn am ymweld amser bwyd a bwyta gyda'r preswylwyr. Mewn rhai achosion efallai byddai'n bosib ceisio aros yno.
I drefnu ymweliad, fel arfer dylech gysylltu â'r cartref yn uniongyrchol, ond os byddwch yn cael anhawster bydd eich rheolwr gofal yn eich helpu.
Am beth y dylwn feddwl wrth ddewis cartref?
I'r rhan fwyaf o bobl a'u teuluoedd, bydd yn bwysig bod y cartref yn cael ei redeg yn dda, yn groesawgar ac yn gyfforddus gyda threfniadau clir yn eu lle i helpu pobl newydd ymgartrefu mor gyflym a hawdd â phosib.
Pan fyddwch yn ymweld â'r cartref, edrychwch o amgylch yn fanwl. Siaradwch â'r staff a phreswylwyr eraill, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Rydych ar fin gwneud penderfyniad mawr; bydd cartref da yn deall hyn ac yn hapus i ateb unrhyw gwestiwn.
Staff yn y cartref
Mae'r staff sy'n gofalu amdanoch yn elfen bwysig iawn o'ch profiad cartref gofal. Os ydynt yn gadarnhaol, yn gyfeillgar, yn groesawgar ac yn barchus tuag at breswylwyr, mae hyn hefyd yn debygol o olygu y byddant yn darparu ansawdd da o ofal i breswylwy.
Cymorth i ymgartrefu
Dylech ddisgwyl cael gweithiwr allweddol. Gweithiwr allweddol yw aelod o staff sydd â diddordeb arbennig ynoch chi ac yn eich helpu i ymgartrefu yn y cartref newydd. Byddant yn dangos y cartref i chi ac yn eich cyflwyno i breswylwyr eraill a staff. Bydd eich gweithiwr allweddol yn eich helpu i wneud penderfyniadau am sut rydych yn dymuno byw yn eich cartref newydd. Er enghraifft, ystyried faint o'r gloch yr hoffech godi yn y bore, pa weithgareddau cymdeithasol yr hoffech gymryd rhan ynddynt a pha fwyd rydych yn ei hoffi. Byddant hefyd am eich adnabod yn well a gwybod am eich hanes a'r pethau sydd wedi dylanwadu ar eich personoliaeth hyd heddiw.
Bydd eich gweithiwr allweddol hefyd yn help i'ch teulu a'ch ffrindiau wrth iddynt addasu i'ch cartref newydd a byddant yn rhoi gwybodaeth iddynt wrth i chi ymgartrefu.
Cymryd rhan
Dylai'r staff yn y cartref ymgynghori a'ch cynnwys mewn ystod o bethau. Pwysicaf oll yw y dylent siarad â chi'n rheolaidd am y gofal y mae ei angen arnoch a sicrhau y diwellir eich anghenion.
Dyma ffyrdd eraill y mae cartrefi'n cynnwys preswylwyr:
- Grwpiau preswylwyr sy'n trefnu gweithgareddau cymdeithasol.
- Trefnu cyfarfodydd preswylwyr rheolaidd i ymgynghori â phreswylwyr ynghylch unrhyw newidiadau yn y cartref.
- Sicrhau bod ffyrdd llai ffurfiol o gyflwyno sylwadau neu awgrymiadau ar wahân i weithdrefn gwyno swyddogol.
- Cynnwys teuluoedd preswylwyr wrth redeg y cartref.
Bod yn annibynnol
Mae'n bwysig i chi gynnal eich annibyniaeth i'r graddau y mae hynny'n bosib.
Dylech ystyried pa mor hawdd y byddai i chi fynd o amgylch y cartref ar eich pen eich hun. Edrychwch ar bethau megis lifftiau, grisiau, canllawiau, canllawiau bach mewn ystafelloedd ymolchi a sut mae'r system alwadau mewn argyfwng yn gweithredu. Os oes gennych anawsterau golwg/clyw, a oes gan y cartref unrhyw gyfleusterau i helpu gyda'r rhain. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, ydy'r mynediad yn hwylus? Cofiwch efallai y bydd eich anghenion yn newid dros amser.
Siarad â phreswylwyr eraill
Pan fyddwch yn ymweld â'r cartref, mae'n syniad da sgwrsio â phobl eraill sy'n byw yno. A ydynt yn gadarnhaol am y profiad?
Gall y rhain fod yn bobl y byddwch yn treulio llawer o amser â hwy yn y dyfodol. A oes preswylwyr eraill o'r un math o gefndir â chi? A yw'r gweithgareddau a gynhelir yn y cartref yn bethau y byddwch yn eu mwynhau.
Cwestiynau i'w gofyn?
Cyn i chi ymweld â chartref mae'n syniad da llunio rhestr o'r cwestiynau yr hoffech eu gofyn. Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys y rhai a restrir ar dudalen 5, yn creu rhestr wirio o gwestiynau efallai y bydd rhywun yn dymuno eu gofyn cyn dewis cartref. Mae cwestiynau y gofynnir yn aml yn cynnwys:
- A oes unrhyw ffioedd ychwanegol y bydd disgwyl i mi eu talu?
- A allaf gadw fy meddyg teulu presennol?
- A allaf gadw a gweinyddu fy meddyginiaeth fy hun?
- A fydd y cartref yn gallu diwallu fy anghenion dietegol?
- A oes polisi smygu?
- Ydy'r cartref yn darparu ar gyfer fy anghenion ieithyddol a diwylliannol e.e. oes staff sy'n siarad Cymraeg?
- A oes cludiant cyhoeddus i'r cartref?
- Pa gysylltiadau sydd â'r gymuned leol?
- Ydy'r cartref yn darparu ar gyfer fy anghenion crefyddol?
- Sut caf wybod pa weithgareddau neu deithiau a gynhelir?
- A allaf ddod â'm celfi neu gyfarpar fy hun i'r cartref?
- Os byddaf yn dod â'm teledu fy hun, a fyddaf yn gallu cael sianelu cebl/lloeren?
- Sut gallaf gadw eitemau gwerthfawr yn ddiogel?
- A allaf newid tymheredd fy ystafell?
- A allaf ddod â'm hanifail anwes?
- A oes gardd neu ardal i eistedd y tu allan?
- A oes unrhyw gyfyngiadau ar amseroedd ymweld?
- A allaf fynd ag ymwelwyr i'm hystafell?
- Beth yw'r trefniadau ar gyfer gwneud neu dderbyn galwadau ffôn?
- A allaf gael mynediad i'r rhyngrwyd neu e-bost?
Beth am dalu?
Bydd ffioedd yn amrywio o un cartref i'r nesaf a gallai hefyd ddibynnu ar eich anghenion a aseswyd.
Dylai ffioedd y cartref gynnwys y gwasanaethau a ddarperir i bawb sy'n byw yno. Byddai'r rhain yn cynnwys prydau a diodydd twym, golch, gwresogi a glanhau. Dylai eich contract gadarnhau'r ffioedd a'r hyn sy'n cael ei gynnwys.
Efallai y bydd disgwyl i chi dalu ffi ychwanegol ar gyfer eitemau opsiynol megis gwasanaeth trin gwallt, nwyddau golchi, papurau newydd, galwadau ffôn, sychlanhau, gwasanaeth trin traed, ffisiotherapi, gwibdeithiau neu weithgareddau hamdden eraill.
Mae rhai cartrefi'n darparu ystafelloedd â lefelau gwahanol o gyfleusterau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol os oes gan eich ystafell, er enghraifft, ei hystafell ymolchi ei hun, ffôn preifat neu hyd yn oed gwell olygfa na rhai o'r ystafelloedd yn y cartref
Dylai'r cartref ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am y ffioedd y byddant yn codi cyn i chi wneud penderfyniad terfynol am y cartref.
Costau gofal nyrsio
Os bydd yr asesiad yn dangos bod angen gofal nyrsio arnoch, dylai'r GIG ddarparu'r rhan honno o'ch gofal. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi dalu'r rhan hon o'r ffioedd sy'n cynnwys y gofal nyrsio, hyd yn oed os ydych yn talu am y gofal personol eich hun.
Os oes gennych anghenion iechyd cymhleth ac mae angen goruchwyliaeth reolaidd arnoch gan staff GIG, efallai byddwch yn gymwys i'r GIG dalu am eich holl gostau gofal. Gelwir hyn yn 'gofal parhaus GIG'. Mae gan GIG daflen benodol am hyn.
Beth sy'n digwydd os yw fy anghenion gofal yn newid?
Wrth i chi symud i'ch cartref gofal, bydd y cartref hwnnw'n datgan y gall ddiwallu eich anghenion. Fodd bynnag, weithiau gall anghenion gofal person newid dros amser, a datblygu'n fwy cymhleth. Efallai y bydd hyn yn golygu nad yw'r cartref rydych yn byw ynddo wedi'i gofrestru'n gywir neu â digon o sgiliau i ddarparu'n ddigonol ar gyfer eich anghenion cynyddol. Os yw hyn y digwydd, mae gan y cartref ddyletswydd i'ch cynghori am hyn a gofyn i chi wneud trefniadau eraill ar gyfer eich gofal. Mae cefnogaeth ar gael o'r Gwasanaethau Cymdeithasol lle mae'r sefyllfa hon yn codi.
Os oes rhaid i chi symud i gartref gofal arall, a bod eich gofal yn cael ei dalu amdano'n llawn neu'n rhannol gan yr Awdurdod Lleol, fel arfer bydd yn rhaid i'r cartref gofal roi o leiaf 28 niwrnod o rybudd i chi bod yn rhaid i chi symud i gartref gofal arall.