Toglo gwelededd dewislen symudol

Ariannu eich gofal preswyl eich hunan (hunan-arianwyr)

Os oes gennych fwy na £50,000 mewn asesdau cyfalaf, gan gynnwys eich cartref a'ch cynilion, bydd rhaid i chi dalu cost lawn eich gofal.

Beth yw hunan-ariannwr?

Mae rheoliadau cenedlaethol yn nodi oni bai bod gennych lai na £50,000 mewn asedau cyfalaf, sy'n cynnwys eich cartref a'ch cynilion, ni fyddwch yn gymwys am gefnogaeth gan eich awdurdod lleol os byddwch yn symud i ofal preswyl. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu cost lawn eich gofal, a byddwch yn rhan o gytundeb unigol gyda'r cartref gofal o'ch dewis. Cyfeirir at y bobl hyn fel 'hunan-ariannwyr'.

Cynllunio ymlaen llaw

Does neb yn gwybod, pan fyddant yn symud i gartref gofal preswyl, pa mor hir y byddant yn byw yno. Dros amser, mae rhai hunanariannwyr yn defnyddio eu hasedau cyfalaf i dalu eu ffioedd cartref gofal. Mae'n bwysig eich bod chi a'ch teulu'n gwybod, cyn i chi drefnu symud i ofal preswyl, beth fydd yn digwydd os bydd eich cyfalaf yn lleihau i'r pwynt lle mae angen i chi ofyn am gefnogaeth ariannol gan yr awdurdod lleol.

Gall yr awdurdod lleol ond wneud cyfraniad at ffioedd cartref gofal pobl y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi asesu eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer gofal preswyl, yn ogystal â'r meini prawf ariannol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os bydd rhywun eisoes yn byw mewn cartref gofal. Os nad oes unrhyw ffordd arall y gellir talu'r ffioedd cartref gofal, bydd rhaid i'r person adael y cartref gofal. Felly, cynghorir unrhyw un sy'n ystyried gofal preswyl i gael asesiad o'i anghenion cyn gwneud penderfyniad i symud i ofal preswyl.

Hunan-ariannwyr ac asesiadau gofal

Hyd yn oed os ydych yn bwriadu mynd i gartref gofal fel hunan-ariannwr, mae'n syniad da i siarad ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol cyn i chi gwblháu eich trefniadau, a dylech ystyried derbyn asesiad o'ch anghenion gofal gan weithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol.

  • Mewn gwirionedd, gall rhai pobl sy'n dewis symud i gartref gofal aros gartref a bod yn fwy annibynnol gyda'r lefel gywir o gefnogaeth. Mae cynnal asesiad o'ch anghenion gofal yn caniatáu i ni benderfynnu beth yw eich anghenion cefnogi ac archwilio'r gwahanol ffyrdd y gellir eu diwallu. Gallai hyn fod yn gefnogaeth ymarferol megis addasiadau ac offer, gofal personol neu gyfuniad o'r ddau.
  • Bydd deall eich anghenion gofal yn caniatáu i chi a'ch teulu gymryd mwy o ran mewn cynllunio eich gofal yn y dyfodol a bydd yn eich helpu i drafod sut bydd y cartref yn diwallu'r anghenion hynny.
  • Os yw eich asedau cyfalaf yn gostwng yn is na £50,000 gallwch ofyn am gyllid gan yr awdurdod lleol tuag at eich ffioedd cartref gofal. Fodd bynnag nid yw'r cyllid hwn yn cael ei roi yn awtomatig. Yn gyntaf, bydd angen i chi asesiad gofal dderbyn asesiad gofal ac, os na fyddwn yn cytuno mai gofal preswyl yw'r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu eich anghenion gofal, ni fyddwn yn gallu gwneud cyfraniad tuag at eich costau.

Hunan-ariannwyr ac asesiadau ariannol

Mae asesiad ariannol yn edrych yn fanwl ar eich incwm a'ch asedau cyfalaf er mwyn cyfrifo a ddylai'r awdurdod lleol gyfranu at gostau eich gofal, a faint y dylent gyfranu. Does dim rhaid i rywun sy'n bwriadu talu am ei ofal preswyl ei hun gae asesiad ariannol, ond gall fod yn ddefnyddiol i chi. Os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi, gallwn edrych ar eich amgylchiadau unigol ac esbonio'r rheolau.

  • Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, ond mae rhywun arall yn byw yno hefyd yn ogystal â chi, efallai nad oes angen i ni ystyried y gwerth hwn pan fyddwn yn cyfrifo eich asedau.
  • Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, ond mae eich asedau eraill yn llai na £50,000, byddech yn gymwys ar gyfer y 'cyfnod diystyru 12 wythnos' sy'n golygu ar gyfer y 12 wythnos gyntaf y byddwch mewn gofal preswyl parhaol, ni fydd gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth asesu faint sydd angen i chi ei dalu.
  • Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ond nid ydych am ei werthu, gallwn gynnig eich bod yn gohirio eich taliadau - ar yr amod bod eich asedau eraill yn llai na £50,000.
  • Os yw'n debygol y bydd eich cyfalaf yn gostwng yn is na £50,000 yn y dyfodol agos, o ganlyniad i dalu ffioedd cartref gofal, gallwn esbonio pa fath o gymorth y gallwch ei ddisgwyl gan yr awdurdod lleol ar yr adeg honno.
  • Os oes angen gofal nyrsio arnoch, gallwn esbonio wrthych sut i gael cymorth gyda chost hwn gan y GIG.

Hyd yn oed os yw eich cynilion dros £50,000, gall fod yn fuddiol i chi drafod eich amgylchiadau gyda'n staff cyllid.

Os ydych yn dymuno, gallwn hefyd wirio os ydych yn hawlio'r holl fudd-daliadau gwladol yr ydych yn gymwys ar eu cyfer, a gallwn esbonio'r rheolau am gael gwared ar eich asedau. Fodd bynnag, ni allwn roi cyngor ariannol i chi.

Ffioedd ychwanegol

Dylech fod yn ymwybodol fod nifer o gartrefi gofal yn codi mwy o dâl nag y mae'r awdurdod lleol yn gallu talu. Er eich bod yn hunan-ariannwr, ni fydd hyn yn effeithio arnoch chi, ond os ydych yn disgwyl dibynnu ar gyfraniad gan yr awdurdod lleol yn y dyfodol, mae angen i chi ystyried sut byddwch yn talu'r gost ychwanegol a dewis cartref y byddwch yn gallu parhau i'w fforddio.

Pan fydd rhywun yn byw mewn cartref lle mae angen taliad ychwanegol, gwneir hyn drwy daliad trydydd parti. Mae hyn yn golygu bod rhaid i rywun arall - fel arfer perthynas - lofnodi cytundeb gyda'r awdurdod lleol sy'n eu rhwymo i dalu'r swm ychwanegol yn syth i'r cartref gofal am ba bynnag hyd ag yw'n angenrheidiol. Nid yw'n bosib i'r preswylydd wneud y taliad hwn o'i arian ei hunan.

Os, fel hunan-ariannwr, rydych yn dewis cartref gofal mwy drud, mae angen i chi ddod o hyd i rywun ymlaen llaw a fydd yn gallu ac yn fodlon talu'r taliad trydydd parti os bydd rhaid i chi ddibynnu ar gyfraniad gan yr awdurdod lleol yn y dyfodol. Os nad oes unrhyw un sy'n gallu gwneud hyn ar eich rhan, efallai bydd rhaid i chi symud i gartref rhatach, arall.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau manwl am eich asesiad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol, neu os hoffech herio'r ffïoedd.