Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am wasanaethau bws a chludiant cymunedol

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am wasanaethau bws a chludiant cymunedol.

A yw'r cyngor yn rhoi cymhorthdal i gludiant cyhoeddus?

Mae 34 o gontractau ar waith i gefnogi gwasanaethau bws lleol mewn ardaloedd lle mae'r cludiant cyhoeddus a ddarperir gan gwmnïau bws preifat yn cael ei ystyried yn annigonol.

Cludiant cyhoeddus cymorthdaledig
 2024/252023/242022/232021/22*2020/21*
Taliadau i weithredwyr4,263,119(c)1,826,592£1,696,764£1,449,852£1,506,862
Nifer y teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau cymorthdaledig1,665,970996,721830,024Tua 900,000(a)
Nifer y teithiau a gymerwyd gan ddeiliaid cerdyn teithio consesiynol2,701,7002,704,1202,797,3912,562,6541,178,572 (b)
Nifer y gorsafoedd bysus1,9571,9571,9571,9571,957

(a) Anhysbys oherwydd cyfnodau estynedig o ddiffyg gweithredu/gweithredu cyfyngedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19
(b) Gostyngiad oherwydd cyfnodau clo COVID-19 a'r lefelau is o wasanaethau bysus a weithredwyd
(c) Nifer cynyddol o gontractau bysiau lleol wedi'u contractio gan y cyngor o fis Ebrill 2024 yn dilyn cyflwyniad Grant Rhwydwaith Bysiau Llywodraeth Cymru.

* Nodyn ychwanegol parthed ffigurau 2020/21 a 21/22: mae'n bosib bod y pandemig Coronafeirws a'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar y ffigurau (cyfyngiadau symud swyddogol cyntaf 23 Mawrth 2020).

Cynllun benthyca sgwteri Olwynion i'r Gwaith

Ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i gludiant i deithio i'r gwaith neu hyfforddiant? Oes rhaid i chi wrthod cyfle am swydd am nad ydych yn gallu cyrraedd yno?

Cludian cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn darparu cyfleoedd teithio i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio cludiant cyhoeddus arferol, neu sy'n byw mewn ardal nad yw'n cael ei gwasanaethu'n aml gan gludiant cyhoeddus, neu'r rheiny ag anabledd.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2025