Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin ynglŷn ag angladdau iechyd cyhoeddus

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am angladdau cyhoeddus.

Faint o angladdau iechyd cyhoeddus a drefnwyd gan yr awdurdod lleol hwn bob blwyddyn?

2018/19 - 22
2017/18 - 18
2016/17 - 29
2015/16 - 35
2014/15 - 11
2013/14 - 14
2012/13 - 27
2011/12 - 19
2010/11 - 6

Beth yw pris cyfartalog angladd iechyd cyhoeddus?

Mae'r cyfartaledd presennol oddeutu £1600.

Faint o arian mae'r cyngor wedi ei wario ar angladdau iechyd cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd canlynol?

2018/19 - £38,069
2017/18 - £31,484
2016/17 - £40,443
2015/16 - £51,100
2014/15 - £14,000
2013/14 - £16,800
2012/13 - £31,050
2011/12 - £21,375
2010/11 - £6,600

Sut daethpwyd o hyd i'r darparwyr angladdau? Fesul achos neu fel rhan o gontract mwy?

Fe'u contractiwyd, yn dilyn proses dendro.

Beth oedd oedran a rhyw'r person ieuaf a hynaf i gael angladd iechyd cyhoeddus?

2018/19 - ieuaf = dyn 41 oed, hynaf = menyw 80 oed
2017/18 - ieuaf = dyn 41 oed, hynaf = menyw 86 oed
2016/17 - ieuaf = dyn 33 oed, hynaf = menyw 87 oed
2015/16 - ieuaf = menyw 33 oed, hynaf = menyw 85 oed
2014/15 - ieuaf = dyn 27 oed, hynaf = menyw 92 oed
2013/14 - ieuaf = dyn 38 oed, hynaf = dyn 82 oed
2012/13 - ieuaf = dyn 48 oed, hynaf = menyw 79 oed
2011/12 - ieuaf = dyn 41 oed, hynaf = menyw 90 oed
2010/11 - ieuaf = dyn 27 oed, hynaf = menyw 96 oed

Faint o gladdedigaethau a gafwyd bob blwyddyn? Faint o amlosgiadau a gafwyd bob blwyddyn?

2018/19 - dim claddedigaethau, 22 o amlosgiadau
2017/18 - 1 gladdedigaeth, 17 o amlosgiadau
2016/17 - dim claddedigaethau, 29 o amlosgiadau
2015/16 - dim claddedigaethau, 35 o amlosgiadau
2014/15 - dim claddedigaethau, 11 o amlosgiadau
2013/14 - dim claddedigaethau, 14 o amlosgiadau
2012/13 - 1 gladdedigaeth, 26 o amlosgiadau
2011/12 - 2 gladdedigaeth, 17 o amlosgiadau
2010/11 - 1 gladdedigaeth, 5 amlosgiad

Lle mae'r awdurdod lleol hwn yn claddu/amlosgi person ar gyfer angladd iechyd cyhoeddus?

Cynhelir amlosgiadau yn Amlosgfa Treforys. Cynhaliwyd claddedigaethau mewn plotiau teuluol sydd eisoes yn bod, felly mewn lleoliadau amrywiol.

Sawl gwaith mae bedd heb farc arno'n cael ei ddefnyddio?

Byth.

O'r claddedigaethau cyhoeddus hyn, sawl un a gafwyd oherwydd: a) Ni ellid cysylltu â'r berthynas agosaf; b) Nid oedd y teulu'n gallu talu am yr angladd?

Nid ydym yn cadw'r wybodaeth hon yn benodol, ond amcangyfrifir fod y mwyafrif yn cael eu cynnal oherwydd nad yw'r teulu'n gallu talu am angladd. Mae hyn o bosib mor uchel â 95%.

A yw'r cyngor, ar unrhyw adeg, wedi defnyddio achrestrydd, ymchwilydd profi neu asiantaeth olrhain i ddod o hyd i berthynas agosaf person ymadawedig  y mae'r awdurdod yn mynd i, neu wedi cynnal, angladd iechyd cyhoeddus ar ei gyfer?

Nac ydy.

Mae'r cyngor yn rhyddhau gwybodaeth am achosion bob chwarter a chwarter ar ei hôl hi. Nid ydym yn credu y byddai darparu gwybodaeth bersonol fwy diweddar er budd y cyhoedd. Byddai rhoi enwau pobl sydd wedi marw'n ddiweddar, ar y cyd â ffynonellau gwybodaeth eraill, er enghraifft y gofrestr etholiadol, y llyfr ffôn neu 192.com, yn golygu y byddai'n weddol rwydd nodi eiddo sydd o bosib yn wag. Gallai hynny hwyluso gweithgarwch troseddol. Felly, mae'r wybodaeth hon wedi'i heithrio o dan Adran 31.

Gallai rhywfaint o wybodaeth fod yn hygyrch yn rhywle arall, yn benodol Bona Vacantia.

Close Dewis iaith