Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwm Tawe Isaf

Mae gwaith presennol yn yr ardal yn canolbwyntio ar adfywio rhagor o nodweddion treftadaeth yn safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a gwella cysylltiadau ar hyd Coridor Afon Tawe â'r ardal hanesyddol hon.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i ddiogelu'r cyrchfan treftadaeth hwn ac i sicrhau bod ein hanes diwydiannol yn parhau i gael ei ddathlu am flynyddoedd i ddod wrth greu rhagor o swyddi a buddsoddiad yn yr economi leol.

Hanes Cwm Tawe Isaf

Yn ystod y 19eg ganrif Abertawe oedd prif ganolfan mwyndoddi copr y byd. Yn ystod y cyfnod hwn roedd Abertawe'n toddi 90% o holl allbwn copr y DU.

Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf, roedd yr holl weithfeydd copr wedi cau a bu'r ardal yn adfeiliedig am ddegawdau lawer.  

Ers y 1960au mae Cwm Tawe Isaf wedi cael ei drawsnewid drwy adfer, adfywio a buddsoddiadau newydd. Mae'r adeiladu sy'n weddill yn cael eu hadfer a'u defnyddio ar gyfer pethau newydd wrth ddathlu'r nodweddion treftadaeth. Mae datblygu'r llwybrau treftadaeth yn caniatáu i ymwelwyr gael rhagor o wybodaeth a dathlu hanes helaeth yr ardal hon a'r diwydiant a helpodd i'w llunio.

Rhagor o wybodaeth

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Awst 2024