Llwybr Treftadaeth Parc Llewelyn
45 munud / 3,200 o gamau
Sylwer bod yr arwynebau'n anwastad ac ar i fyny mewn rhan mannau.
- Trosolwg a hanes
- Mannau o Ddiddordeb yn y Parc
- Map o'r Llwybr Treftadaeth
- Sut i gyrraedd yno
- Rhagor o wybodaeth
Trosolwg a hanes
Crëwyd Parc Llewelyn ym 1874 ar dir ffermio a roddwyd gan John Dillwyn Llewelyn i greu 'Parc i'r Bobl' yn dilyn cytundeb â William Thomas, un o arloeswyr y Mudiad Mannau Agored, o Faenordy Lan yn Nhreforys. Y bwriad oedd cynnig ffynhonnell hamdden i'w weithwyr yn y cwm diwydiannol islaw, yn y gobaith o ddarparu aer glanach i ymwelwyr oherwydd y lleoliad a'r uchder.
Dyma un o barciau cyhoeddus Fictoraidd mawr Abertawe a'r un cyntaf a phwysicaf ar ochr ddwyreiniol y ddinas. Crëwyd dyluniad cychwynnol y parc gan J. Shaw o J. & W. Shaw, meithrinwyr planhigion a chynllunwyr gerddi, Gower Road, Abertawe. Cafodd ei gynnwys, ochr yn ochr â dyluniadau arfaethedig eraill, mewn llyfr yn y gyfres Prize Essay. Roedd y dyluniad yn gymhleth ac nid ystyriodd y topograffi.
Agorwyd y parc yn swyddogol ar 3 Hydref 1878, mewn seremoni fawreddog. Mae'r prif briodoleddau'n cynnwys y lleiniau coed, sydd yno o hyd; y dramwyfa, a gafodd ei harwynebu gydag onn coch a choblau, sy'n weladwy o hyd mewn mannau; y llyn, na chafodd ei gwblhau ar y pryd ac sydd wedi diflannu erbyn hyn; a'r teras (llain griced yn ddiweddarach). Ar y teras tua dwyrain safle'r ffermdy roedd lawnt croquet, a oedd wedi diflannu erbyn 1897. Roedd ffynnon y fferm erbyn hynny'n ffynnon ddŵr.
Y tu mewn i'r brif fynedfa oddi ar Trewyddfa Terrace, mae tramwyfa sy'n arwain i'r gogledd tuag at lwybr y boneddigesau a'r safle gwaith. Ar ochr ddwyreiniol y brif dramwyfa y mae'r ganolfan gymunedol, adeilad modern ymarferol unllawr bach. Ar ymyl y dramwyfa ceir coed a chymysgedd o lwyni, rhai bytholwyrdd yn bennaf. Mae'r coed cymysg yn cynnwys bedw a masarn sy'n hŷn na'r parc. I ogledd a gorllewin safle'r fferm ceir gerddi addurniadol mewn ardal sydd mwy neu lai'n hirgrwn. Ceir hen ardd y ffermdy i'r gogledd, gydag argloddiau pridd yn ffinio â hi ar yr ochr ogleddol a'r ochr ddwyreiniol, a choed a llwyni wedi'u plannu'n anffurfiol yn yr ardal i'r gorllewin.
Un o brif briodoleddau tirwedd wreiddiol y parc oedd tramwyfa droellog sy'n dilyn y ffin ar bob ochr heblaw am y dwyrain, lle mae'n gyfochrog â hi ar dir uwch i'r gorllewin. Gellir dilyn y dramwyfa hon o hyd, er bod rhannau wedi'u gorchuddio â glaswellt bellach. Adwaenid rhan uchaf pen gogleddol y parc fel 'Pegwn y Gogledd'. Mae'r ardal hon yn cynnig golygfeydd panoramig hyfryd i'r dwyrain a'r de. Ar y gorwel deheuol ceir olion gwaith carreg tal Castell Morris, atyniad pwysig sy'n weladwy o rannau uwch eraill o'r parc. Mae Castell Morris ar gofrestr Cadw.
Mae'r rhan fwyaf o'r parc, i'r gorllewin o ardal chwarae'r plant ac ardal yr ardd, yn laswelltir eang. Mae'r ochr ogleddol ar ogwydd i'r de. Mae gweddill y parc ar ogwydd i'r gorllewin. Yn y canol ceir dwy ardal wastad. Roedd yr un uchaf, yn y gogledd, gynt yn faes criced.
Datblygwyd y parc ar raddfa fawr am yr eildro ar ddechrau'r 20fed ganrif. Crëwyd mynedfa newydd yng nghornel y gogledd-ddwyrain a chyflwynwyd rhwydwaith eilaidd o barciau. Cwblhawyd y llyn a chafwyd gwared ar y ffynnon wrth i'r dŵr gael ei ddargyfeirio drwy ddraeniau i'r llyn. Adeiladwyd porthdy newydd wrth y brif fynedfa rhwng 1914-16.
Mannau o Ddiddordeb yn y Parc
1. Ffermdy - Ffermdy Cnap Llwyd
Yr ardal hon oedd lleoliad y ffermdy. Fe'i dymchwelwyd yn y 1960au, ond mae wal wreiddiol y ffermdy yno o hyd.
2. Llwybr y Boneddigesau
Roedd John Dillwyn, botanegydd a ffotograffydd arloesol o Gymru, am ddefnyddio'r enw 'Parc y Foneddiges' er mwyn talu teyrnged i rôl ei wraig, Emma Thomasina, wrth ddylunio ac agor y parc, ond gwrthodwyd hyn.
Defnyddiwyd llwybr y boneddigesau'n ddiweddarach gan fenywod fel man cyfarfod.
3. Y Chwarel
Dyma safle hen chwarel (sydd wedi gordyfu erbyn hyn). Mae'n debyg bod y chwarel wedi darparu'r deunyddiau a oedd eu hangen i adnewyddu'r ffermdy, y tai allan a chyfleusterau gwaith carreg eraill yn y parc yn ogystal â Chastell Morris.
4. Y Llwybr Pinwydd (Ffordd Gerbydau)
Ar 22 Mehefin 1875 adroddodd papur newydd The Cambrian am y cynnydd a wnaed yn y parc. Roedd gwaith wedi dechrau ar ffordd gerbydau a oedd yn dilyn llwybr troellog drwy'r parc ac o amgylch y perimedr. Yn ddiweddarach cyfeiriwyd at ran o'r llwybr hwn fel y Llwybr Pinwydd. Yn hwyrach gorchuddiwyd y ffordd gerbydau cerrig crynion â lludw coch, ac mae wedi ei gorchuddio â glaswellt ers amser maith. Gallwch weld gweddillion o hyd mewn rhai mannau.
5. Y Berllan
Drwy gymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe, creodd Cyfeillion Parc Llewelyn berllan ffrwythau treftadaeth gymunedol yn ystod 2013, sy'n gymysgedd o afalau a gellyg. Mae gwaith trin a thocio gofalus wedi galluogi'r chwipiau i ffynnu heb lawer o golledion, ac maent eisoes yn dwyn ffrwyth. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwnaed nifer o ychwanegiadau.
6. 'Pegwn y Gogledd'
Dyma bwynt uchaf y parc. Fe'i dangosir ar fap gwreiddiol y parc fel twmpath aneglur. Mae'n bosib y bwriadwyd iddo fod yn dŵr gwylio neu'n llwyfan uchel.
Mae'r ardal hon yn cynnig golygfeydd panoramig i'r dwyrain a'r de tuag at Gastell Morris, a ddefnyddiwyd wrth ddylunio Parc Llewelyn. Mae Pen y Fan a Gogledd Dyfnaint hefyd yn weladwy o'r pwynt hwn ar ddiwrnodau braf.
7. Llwybr y Coetir
I'r gorllewin, mae Llwybr y Coetir yn codi i'r dwyrain o Gwm Gelli a rhwng y nant ar y ffin a'r dramwyfa. Ceir cymysgedd o dderw digoes, ffawydd, masarn, bedw a rhododendronau.
8. Y Gwlyptir
Llenwyd y llyn gwreiddiol yn ystod y 1970au, ond daeth yn gors oherwydd ffynnon. Fe'i hadwaenid maes o law fel "Y Gwlyptir". Mae llwybr estyllod yn cael ei adeiladu i alluogi pobl i fwynhau'r ardal hon, sy'n denu llawer o rywogaethau o adar, brogaod, pryfed a mwy.
9. Coed y Jiwbilî
Roedd Coed y Jiwbilî yn becyn o goed ifanc a gyflenwyd am ddim gan Brosiect Coed y Jiwbilî Coed Cadw, a oedd yn meddu ar y weledigaeth o blannu chwe miliwn o goed i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Elizabeth II. Plannwyd 420 o goed ifanc gan aelodau Grŵp Cyfeillion y Parc wedi'u cynorthwyo'n fedrus gan ddisgyblion tair ysgol leol, Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan, Ysgol Iau Brynhyfryd ac Ysgol Pen-y-Bryn. Roedd y pecyn yn cynnwys bedw arian, cerddin, derw, coed cyll, drain gwynion a drain duon. Cafodd un dderwen ifanc arbennig a gyflenwyd gan yr ystadau brenhinol ei phlannu ar ei phen ei hun mewn lleoliad ar wahân.
10. Y Tŷ Crwn
Agorwyd y tŷ crwn ym 1911 fel adeilad amlbwrpas. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi cynnwys man storio offer ar gyfer y lawnt fowlio, cysgodfan â meinciau a chiosg lluniaeth. Mae un o'r coed a blannwyd i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Elizabeth II yn 2012 gerllaw.
Castell Morris
Gallwch weld Castell Morris ger Gât 3. Adeiladwyd Castell Morris oddeutu 1770 gan John Morris. Roedd y castell yn cynnwys pedwar bloc tŵr o gwmpas beili canolog wedi'i amgáu gan adeiladau cyswllt. Roedd pedwar llawr ym mhob bloc a darparodd y cyfadeilad cyfan lety mewn fflatiau ar wahân i weithwyr a theuluoedd yr oedd Morris yn eu cyflogi. Dyma un o'r adeileddau cyntaf oll a godwyd i roi llety i weithwyr mewn fflatiau.
Mae'r adeiledd sy'n weddill yn cynnwys waliau terfyn dau o'r blociau tŵr, sy'n dal i sefyll ar eu huchder gwreiddiol ac sydd wedi cadw llawer o'u priodoleddau. Mae'r heneb o bwys cenedlaethol oherwydd ei photensial i wella ein gwybodaeth am dechnegau adeiladu a threfniadaeth aneddiadau.
Nid yw'r castell yn hygyrch ar hyn o bryd (2024).
Map o'r Llwybr Treftadaeth
(cliciwch ar y map i weld fersiwn fwy)
Sut i gyrraedd yno
Côd Post: SA6 8PB
Beicio: Mae gan Abertawe nifer o lwybrau teithio llesol: Beicio
Bws: Mae gwasanaeth rhif 54 o ganol dinas Abertawe'n stopio ger prif fynedfa'r parc.
Car: Ewch allan o ganol y ddinas tuag at Landŵr a'r A4067. Ar y cylchfan ar ôl mynd heibio i Stadiwm Swansea.com, dilynwch yr ail allanfa i Cwm Level Road a pharhewch i'r ail droad ar y dde, sef Trewyddfa Road. Parhewch ar Trewyddfa Road, gan ddefnyddio'r ail droad ar y chwith.
Cyfleusterau: Mae amrywiaeth o siopau a mannau bwyta ar gael yn nhref gyfagos Treforys: Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys
Rhagor o wybodaeth
Mae Parc Llewelyn yn un o'r tirweddau,y parcau a'r gerddi o ddiddordeb hanesydol arbennig yng Nghymru sydd ar gofrestr Cadw.