Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr Treftadaeth Camlas Tawe

Llwybr o oeddeutu 2.3 km / 1.4 filltir.

3,200 o gamau - 40 munud

Gwybodaeth am Gamlas Tawe

Cafodd Camlas Tawe ei hadeiladu rhwng 1794 a 1798 gan Swansea Canal Navigation Company, a chododd 375 troedfedd drwy 36 o lociau o lefel y môr i fyny'r cwm i Aber-craf. Fe'i hadeiladwyd i gludo cargo fel calchfaen a glo i lawr i ddiwydiannau yng Nghwm Tawe Isaf ac at ddibenion allforio. Cafodd cargo fel pren ar gyfer pyst pyllau ei gludo yn ôl i fyny'r cwm.

Oherwydd y cyswllt trafnidiaeth newydd hwn â'r môr, datblygwyd diwydiannau ar hyd y cwm, yn enwedig gwaith copr, gwaith tun a gwaith metel arall, gan arwain at dwf y trefi rydym yn gyfarwydd â nhw heddiw. Adeiladwyd badau camlas mewn ierdydd ar hyd y llwybr; enwyd yr un olaf ar ôl Grace Darling ym 1918 yng Ngodre'r Graig.

Roedd Camlas Abertawe'n 16 milltir o hyd. Heddiw, mae 6 milltir yn unig yn dal i fod dan ddŵr. Llenwyd cryn dipyn o'r gamlas pan adeiladwyd yr A4067 yn y 1980au. Glandŵr Cymru, sef yr ymddiriedolaeth camlesi ac afonydd yng Nghymru, sy'n berchen ar y gamlas ac mae'n boblogaidd heddiw gyda cherddwyr, beicwyr a phadlwyr mewn canŵau, ceufadau a phadlfyrddau.

Mae'r gamlas yn goridor gwyrddlas gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt ac mae'n darparu amrywiaeth o gynefinoedd i wella bioamrywiaeth yr ardal. Os ydych yn ffodus, efallai y byddwch yn gweld un o leision y dorlan sy'n byw yn yr ardal, ond mae'n haws gweld ieir dŵr a hwyaid gwyllt.

Mannau o Ddiddordeb

1. Canolfan Camlas Tawe, Hebron Road

Agorwyd Canolfan Camlas Tawe yn 2024. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu gan Gymdeithas Camlas Tawe i fod yn hwb cymunedol ac yn bencadlys Cymdeithas Camlas Tawe, elusen a sefydlwyd ym 1981 i gadw a gwarchod y gamlas. Bu'r adeilad yn felin lifio gynt ond roedd bellach yn wag ac yn ddolur llygad.

Ochr yn ochr â'r ganolfan y mae murlun a grëwyd gan artistiaid lleol sy'n dangos hen olygfa. Ochr yn ochr â'r ganolfan hefyd y mae'r car llusg, model carreg nodweddiadol o un o fadau Camlas Tawe, llawn glo. Roedd y badau'n 65 troedfedd o hyd, yn 7 troedfedd 6 modfedd o led a gallent gludo 22 dunnell pan fyddant yn llawn, wedi'u llusgo gan un ceffyl.

2. Traphont Ddŵr Clydach

Dyma un o dair traphont ddŵr ar Gamlas Tawe. Mae dŵr o'r gamlas yn gorlifo ar ddwy ochr y draphont i mewn i Afon Clydach Isaf, yn agos at y man lle mae'n ymuno ag Afon Tawe.

3. Pont John

Adeiladwyd y bont droed fetel hon yn y 1850au fel tollbont i alluogi gweithwyr i groesi'r gamlas.

4. Cerflun o Ludwig Mond

Gyferbyn â phrif fynedfa gwaith Mond y mae cerflun o Syr Ludwig Mond. Sefydlwyd gwaith nicel Mond ym 1902 gan Mond Nickel Company i fireinio nicel matte o Ganada drwy broses nicel carbonyl. Cafodd y broses hon ei llunio gan Syr Ludwig Mond (1839-1909).

5. Cerflun o Geffyl

Defnyddiwyd mwy nag 800 o bedolau i greu'r cerflun maint go iawn hwn o geffyl camlas. Cafodd yr artist Ollie Holman ei gomisiynu gan Gyngor Abertawe i greu'r gwaith, sy'n dathlu rôl hollbwysig ceffylau yn stori'r gamlas.

6. Yr Efail - Sied Dynion Clydach bellach

Y gred yw bod yr efail yn dyddio yn ôl i ddechrau'r ugeinfed ganrif a'i bod yn cynnwys olion tair aelwyd. Bu'r gofaint yn gwasanaethu ceffylau o waith nicel Mond, a sefydlwyd ym 1902. Heddiw, mae'r adeilad yn gartref i sied dynion Clydach ac mae'n cynnig lle i bobl o'r gymuned ddod ynghyd i weithio ar brosiectau fel crefftau, gwaith coed a mwy.

The Old Blacksmiths - Men's Shed Clydach

7. Loc Clydach

Cafodd yr ardal hon o'r gamlas ei gorchuddio'n llwyr o dan goncrit yn y 1970au a'i defnyddio fel iard storio. Yn 2023, llwyddodd Cymdeithas Camlas Tawe, gyda chyllid grant gan Lywodraeth y DU a Chynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, i gyflawni ei nod tymor hir o ailagor y rhan hon o'r gamlas, sy'n 120 metr o hyd, adfer siambr y loc a gosod llifddorau newydd. Ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau, bydd y loc unwaith eto'n caniatáu i fadau deithio o Glydach i Drebanos.

8. Pont Coed Gwilym

Pan adeiladwyd y gamlas yn y 1790au, torrodd ar draws llawer o ffyrdd, ffermydd a phentrefi. Felly, adeiladwyd pontydd yn ogystal â'r gamlas. Dros y blynyddoedd, mae rhai ohonynt wedi cael eu hatgyfnerthu a'u hehangu ar gyfer traffig modern, ond mae'r adeiledd bwaog maen gwreiddiol yn weladwy o hyd. Yn ogystal â bod yn atyniadol, mae pontydd fel hyn yn cynnig cynefin gwerthfawr i bryfed ac ystlumod.

9. Cerfluniau sy'n dathlu pobl leol

Ym Mharc Coed Gwilym ar hyd y gamlas y mae tri cherflun metel sy'n dathlu enwogion lleol. O'r chwith i'r dde: 

Derek Bevan

Mae Derek, a anwyd yng Nghlydach, yn gyn-ddyfarnwr rhyngwladol yn rygbi'r undeb. Yn ystod ei yrfa, bu'n ddyfarnwr mewn cyfanswm o 55 o gemau prawf, gan gynnwys rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ym 1991 rhwng Awstralia a Lloegr.

Harry Grindell Matthews, 1880-1941

Roedd Matthews yn ddyfeisiwr o Loegr sydd wedi cael cydnabyddiaeth am ddyfeisio'r ffôn symudol cyntaf a thaflunydd optegol (tebyg iawn i arwydd Batman!). Gwnaeth adeiladu labordy yn y bryniau uwchben Clydach ym 1934 a gweithio'n gyfrinachol i ffwrdd o olwg y wasg a'r cyhoedd. Fe'i hadwaenid yn lleol fel "Dr Death Ray" ar ôl prosiect blaenorol nas derbyniwyd.

Lilian Smith

Bu Lilian yn fydwraig gymunedol yng Nghlydach, gan helpu i eni cannoedd o fabanod lleol yn ystod ei gyrfa hir. Roedd yn dwlu ar ei swydd, gan ddweud ei bod yn fraint ac yn bleser gofalu am famau a'u babanod. Bu farw yn 2021.

10. Dram Lo

Mae'r ddram neu'r wagen haearn hon ar ochr y Ganolfan Treftadaeth ac mae'n dyddio yn ôl i 1860. Fe'i defnyddid i ddod â glo o byllau cyfagos i'r gamlas i'w lwytho i fadau. Byddai'r wagenni'n cael eu tynnu ar reiliau o'r enw ffyrdd dramiau. Mae olion llawer o'r ffyrdd dramiau hyn i'w gweld heddiw fel argloddiau uchel o ochr ddwyreiniol y cwm tuag at y gamlas.

11. Parc Coed Gwilym

Agorwyd y parc ym 1953 ac fe'i defnyddir yn helaeth heddiw, gan gynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau chwaraeon yn ogystal â llwybrau cerdded a gerddi hardd. Mae Canolfan Treftadaeth Clydach (Yn agor ffenestr newydd) yn y parc hefyd.

12. Coeden wedi'i cherfio

Ar hyd llwybr halio'r gamlas, ar ôl y parc, byddwch yn dod o hyd i gerfiadau amrywiol, gan gynnwys y goeden farw hon y cerfiwyd anifeiliaid ac adar arni. Faint gallwch eu cyfrif?

Gwybodaeth hanesyddol ychwanegol

Sêl Swansea Canal Company

Dyma sêl Swansea Canal Company, a sefydlwyd ym 1794. Pasiwyd Deddf Seneddol yn y flwyddyn honno i ganiatáu i waith ddechrau ar adeiladu'r gamlas, a gwblhawyd bedair blynedd yn ddiweddarach.

The Grace Darling

The Grace Darling, a adeiladwyd yng Nghlydach ym 1918, oedd y bad camlas olaf i weithio ar Gamlas Tawe. Fe'i dangosir gyda'i berchennog, William Barnes, a'i geffyl Ginny mewn llun a dynnwyd ar ddechrau'r 1930au yn ôl pob tebyg.

Map llwybr treftadaeth

Cliciwch ar y map i weld fersiwn fwy neu lawrlwytho fersiwn PDF:  Map Gamlas Abertawe (PDF, 1 MB)

Sut i gyrraedd yno

Côd post am ddechrau'r taith: SA6 5EJ

Beicio: Ar hyd Llwybr Beicio Cenedlaethol 43: Beicio

Bws: O ganol dinas Abertawe, mae gwasanaeth X6 First Cymru a gwasanaeth 45 Adventure Travel yn teithio drwy ardal Clydach.

Car: Gyrrwch i'r gogledd allan o ganol dinas Abertawe gan ddilyn yr A4067, yna ewch ar hyd y B4603, Clydach Road, sy'n arwain at Hebron Road a phentref Clydach.

Parcio: Maes parcio Stryd Fawr Clydach neu Parc Coed Gwilym

Cyfleusterau: Gellir dod o hyd i amrywiaeth o siopau a lleoedd bwyta yng Nghlydach: Siopwch yn Lleol, Siopwch yng Nghlydach

Mwy o wybodaeth

Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu