Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddwch yn Abertawe

Mae gan Abertawe gryn dipyn i'w gynnig - ein treftadaeth gyfoethog, ein brwdfrydedd dros arloesedd, canol y ddinas sy'n newid ar ôl lefelau digynsail o fuddsoddiad ac ansawdd bywyd unigryw.

Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys creu mannau gweithio modern newydd i fusnesau yng nghanol y ddinas yn ein pentref digidol ar Ffordd y Brenin.Bydd y swyddfeydd hygyrch a fforddiadwy hyn â dulliau cyfathrebu digidol blaengar yn darparu'r lleoliad delfrydol ar gyfer busnesau technoleg a chreadigol gydag ystod o amwynderau sy'n cynnig gwerth ychwanegol.

Ers ei orffen yr Arena Abertawe dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl yn yr ardal Bae Copr, mae'r ail gam wedi dechrau, gyda swyddfeydd newydd a mannau manwerthu wedi'u cynllunio. Mae'r Gwaith Copr yr Hafod, sef hen safle gwaith copr mwyaf y byd a datblygiad cyfleuster hamdden ceir llusg a char cebl cyffrous Skyline Enterprises ar Fynydd Cilfái a fydd yn edrych dros ganol y ddinas. Bydd yr atyniadau hyn yn denu degau ar filoedd o ymwelwyr newydd i'r ddinas ac yn creu cyfleoedd gwario a chyflenwi newydd i fusnesau.

Mae'r ddinas yn newid ac mae'n amser cyffrous i wneud busnes yn Abertawe.

Holwch am fuddsoddi yn Abertawe

Dewch i fod yn rhan o ddinas sy'n tyfu a phrofi safon byw unigryw.

Gwelliannau i ganol y ddinas

Mae gennym nifer o brosiectau adfywio cyffrous ar ddod yng nghanol y ddinas.

Tir ac Eiddo ar werth neu brydles

Cyfle i ddod o hyd i dir masnachol a diwydiannol sydd ar gael i'w prynu neu rentu yn Ardal Abertawe.

Trethi busnes

Mae cyfraddau busnes yn fath o dreth leol sy'n cael eu talu gan breswylwyr neu berchnogion eiddo masnachol megis siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.

Cyngor i fusnesau

Rydym yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid i roi cyngor a chymorth ni waeth beth yw maint neu sector eich busnes.

Y fasnach dwristiaeth

Tîm Twristiaeth Cyngor Abertawe yw darparwyr swyddogol gwybodaeth i ymwelwyr a nhw sy'n gyfrifol am farchnata Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr i weddill y DU.

Perfformiad ac ystadegau

Amrywiaeth eang o ystadegau a gwybodaeth am Ddinas a Sir Abertawe.

Gwneud busnes gyda'r cyngor

Cael gwybod am ein gwasanaethau masnachu, gofrestru fel cyflenwr newydd a dysgu am ein system prynu i dalu.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Mehefin 2024