Toglo gwelededd dewislen symudol

Tenantiaid a lesddeiliaid y Cyngor - cymryd rhan

Hoffech chi gael y cyfle i ddweud eich dweud am sut rydym yn cyflwyno'r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer ein tenantiaid a sut gellir eu gwella? Mae nifer o ffyrdd o gymryd rhan a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Rydym am i gynifer o'n tenantiaid â phosib ddweud eu dweud a helpu i lunio'n gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, gweithio ochr yn ochr â ni ar bob cam o'r ffordd a rhoi gwybod i ni beth sy'n bwysig i chi - yn eich cartref a'ch cymdogaeth. Rydym am i denantiaid gael y pŵer i wneud y canlynol:

  • amlygu meysydd i'w gwella
  • awgrymu atebion
  • helpu'n staff i wrando ar adborth
  • rhoi gwybodaeth leol i ni 
  • ein helpu ni i roi awgrymiadau a syniadau ar waith lle bynnag y bo'n bosib

Mae hefyd gynifer o fuddion personol i'r rheini sydd am gymryd rhan, fel:

  • dysgu sgiliau newydd
  • helpu i fagu hyder 
  • gwneud ffrindiau newydd

Gall fod yn brofiad difyr hefyd!

Ffyrdd o gymryd rhan

Mae 3 lefel o gymryd rhan felly gallwch ddewis yr un sydd fwyaf addas i chi:

1.Cymryd rhan o bryd i'w gilydd

Mae gennym ddetholiad eang o arolygon, ymgynghoriadau a digwyddiadau untro y gallwch gymryd rhan ynddynt pryd bynnag y mynnwch:

  • digwyddiadau galw heibio yn eich ardal
  • materion lleol a drafodir wrth iddynt godi
  • pynciau llosg fel sbwriel ac ailgylchu
  • arolygon ar-lein a thrwy'r post
  • hyfforddiant ymgysylltu ad hoc
  • cyfarfodydd ar-lein
  • digwyddiadau a gweithdai sgiliau

2. Cymryd rhan yn rheolaidd

Mae sawl grŵp a phanel sy'n ymdrin â materion sy'n ymwneud â maes gwasanaeth penodol:

  • panel ymgynghorol y tenantiaid
  • grŵp adeiladau ac atgyweirio
  • grŵp rheoli a gofalu am ystadau
  • grŵp byw'n annibynnol (llety pobl hŷn)
  • grŵp adborth tŷ agored
  • grŵp llywio tenantiaid

3. Cymryd rhan yn amlach

Mae croeso i chi gymryd rhan yn y broses cyfranogiad yn amlach, fel tenant ac fel cynrychiolydd ar gyfer eich ardal a/neu denantiaid eraill. Gofynnwch i ni am ragor o fanylion am sut gallwch helpu, a byddwn yn eich cefnogi bob cam o'r ffordd!

Sut i gymryd rhan

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r uchod, ymuno â'n grŵp cyfranogiad tenantiaid ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu ddod i un o'n cyfarfodydd grŵp, cysylltwch â'r Swyddog Cyfranogiad.

Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu 2024-2028

Mae Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu 2024 - 2028 yn amlinellu ein nodau a'r camau gweithredu sydd eu hangen i alluogi ac annog cyfranogiad ac ymgysylltiad tenantiaid a lesddeiliaid dros y 4 blynedd nesaf.

Mae cyfranogiad yn ffordd i denantiaid a lesddeiliaid wneud y canlynol:

  1. Rhannu syniadau a chydweithio gyda'r gwasanaeth tai (eu landlord).
  2. Bod yn rhan o'r prosesau penderfynu sy'n effeithio'n uniongyrchol ar y gwasanaethau maent yn eu derbyn a'r cymunedau maent yn byw ynddynt.
  3. Defnyddio'r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i gymryd rhan a dweud eu dweud am yr hyn sy'n bwysig iddynt.

Mae ymgysylltu yn gyfle i denantiaid a lesddeiliaid:

  1. Gymryd rhan a dweud eu dweud mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol fel sesiynau galw heibio.
  2. Defnyddio'r holl offer cyfathrebu sydd ar gael gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol/cynnwys digidol i hysbysu tenantiaid a chaniatáu iddynt ddweud eu dweud.
  3. Profi dull mwy hamddenol a hyblyg o ymgysylltu sy'n ceisio sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn materion sy'n bwysig iddyn nhw.

Os hoffech gael copi o'r strategaeth lawn, fersiwn hawdd ei darllen neu grynodeb, cysylltwch â'r Swyddog Cyfranogiad gan nodi'ch fformat a'ch iaith a ffefrir.

Swyddog Cyfranogiad (Tai)

Enw
Alison Winter
Rhif ffôn
01792 635043
Rhif ffôn symudol
07775 221453

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024