Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig

Cyllid sy'n cefnogi busnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig.

Cyfle newydd i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer digwyddiadau gwledig cymunedol

Mae modd cyflwyno ceisiadau i Gronfa Digwyddiadau Gwledig Abertawe bellach, ac mae cyfanswm grantiau gwerth £44,000 ar gael i'w wario erbyn diwedd mis Ionawr 2025 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r grant hwn wedi'i gyflwyno gan Gyngor Abertawe a'i gefnogi gan y Grŵp Cynghori Gwledig, i ariannu digwyddiadau a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, yn meithrin cydlyniant cymunedol ac yn cefnogi busnesau lleol presennol mewn ardaloedd gwledig.

Gallai digwyddiadau amrywio o ddigwyddiadau ar thema treftadaeth sy'n cynnwys darparwyr lleol neu ddigwyddiadau bwyd sy'n tynnu sylw at gynnyrch lleol ac yn dod â chymunedau gwledig ynghyd, i sesiynau crefft sy'n dathlu bywyd gwledig lleol ac yn cynnwys artistiaid o Abertawe.

Mae'r cyllid hwn ar gyfer prosiectau refeniw yn unig. Gall pob cais llwyddiannus dderbyn hyd at £7,000. Gellir ariannu prosiectau hyd at 100%, felly dyma gyfle gwych i gyflwyno cais i brofi syniad gwych!

Bydd y grantiau'n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, felly cysylltwch â ni cyn gynted â phosib. Bydd swyddogion y Cyngor yn hapus i gynnig arweiniad ar syniadau am ddigwyddiadau a llenwi'r ffurflen gais syml.

Rydym yn awyddus i ledaenu'r gair i gynifer o bobl â phosib, felly byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech rannu'r wybodaeth hon â'ch rhwydweithiau neu unrhyw un rydych yn ei adnabod sydd efallai â diddordeb mewn gwneud cais.

Mae'r rhai hynny sy'n gymwys i wneud cais yn cynnwys:

  • grwpiau cymunedol cyfansoddiadol - nid er elw 
  • elusennau 
  • sefydliadau'r 3ydd sector - nid er elw
  • sefydliadau cyhoeddus - nid er elw 

Y wardiau sy'n gymwys am gymorth yw:

  • Llandeilo Ferwallt
  • Clydach
  • Fairwood
  • Gorseinon a Phenyrheol
  • Gŵyr
  • Tregŵyr
  • Llangyfelach
  • Llwchwr
  • Pen-clawdd
  • Penlle'r-gaer
  • Pennard
  • Pontarddulais
  • Pont-lliw a Thir-coed

Efallai y bydd ardaloedd gwledig y tu allan i'r wardiau hyn yn gymwys, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch: ruralanchorspf@abertawe.gov.uk


Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cael cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'r Rhaglen Datblygu Gwledig - mae manylion ynghylch y rhain a sut y gwariwyd yr arian i'w gweld isod.

Cefnogaeth iechyd a lles wledig

Mae'r cyfeirlyfr hwn yn cynnwys manylion am amrywiaeth o sefydliadau cefnogi, y mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Cyllid Angori Gwledig

Yn 2023 gwnaethom dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fel rhan o'r agenda Ffyniant Bro.

Rhaglen Datblygu Gwledig (RDG)

Cefnogodd fusnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru rhwng 2014 a 2023.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2024