Toglo gwelededd dewislen symudol

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae diwallu anghenion y presennol gan ddiogelu anghenion cenedlaethau'r dyfodol yn egwyddor sydd wrth wraidd pob penderfyniad a wneir gan Gyngor Abertawe.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn golygu bod rhaid i'r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill wneud yr hyn rydym yn ei wneud mewn ffordd gynaliadwy.

O ganlyniad, mae'n rhaid i Gyngor Abertawe feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl leol a chymunedau a'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cydlynol. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru ac Abertawe rydym oll am fyw ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.

 

Cyflwyno'r Ddeddf

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu animeiddiad byr short animation sy'n rhoi trosolwg defnyddiol o'r ddeddf a'r hyn y bwriedir ei gyflawni ar gyfer Cymru.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn arweiniad 'Yr Hanfodion' Llywodraeth Cymru.

 

Yr hyn y mae'r ddeddf yn ei olygu i Gyngor Abertawe

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yw'r cyntaf yn y byd ac mae'n wahanol i ddeddfau eraill. Mae'n creu'r amodau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus fel y gallant gyflwyno'n fwy effeithiol drwy newid y ffordd rydym yn gweithio yn hytrach na'r hyn rydym yn ei wneud.

Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu datblygu cynaliadwy ers tro fel egwyddor drefnu ganolog yn ein polisi datblygu cynaliadwy.

Fodd bynnag, gwyddom, ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, fod angen i ni wneud newidiadau sylweddol i'n prosesau a'n hymagweddau o hyd. Dyma gyfle go iawn i drawsnewid a fydd yn sicrhau dyfodol Abertawe a Chymru.

 

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Sefydlodd y ddeddf Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Mae Derek Walker'n gweithredu fel gwarchodwr ar gyfer buddion cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, ac mae'n cefnogi 44 o gyrff cyhoeddus wrth roi egwyddor datblygu cynaliadwy'r ddeddf ar waith.

Mae Cyngor Abertawe'n elwa o'r cyngor a'r offer a ddarperir, sy'n cynnwys;

 

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae'r ddeddf yn gosod dyletswydd lles ar 44 o gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Cyngor Abertawe) i gynnal gwaith datblygu cynaliadwy drwy weithredu mewn cydweithrediad â'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy'.

Mae hyn yn golygu bod angen i ni ystyried yr effaith ar bobl yn y dyfodol wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio'r 'pum ffordd o weithio'.

  Dyma'r pum ffordd o weithio:

  • Tymor hir - Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr ag anghenion i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
  • Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
  • Integreiddio - Ystyried sut gallai amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau lles, ar eu hamcanion eraill neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill
  • Cydweithio - Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o'r corff ei hun) mewn modd a allai helpu'r corff i gyflawni ei amcanion lles
  • Cyfranogaeth - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu

 

Nodau Llesiant Cenedlaethol

I wneud yn siŵr bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith:  

 

Ein Hamcanion Lles

Mae'n rhaid i Gyngor Abertawe osod amcanion lles sydd wedi'u llunio i fwyafu'n mwyaf o'n cyfraniad at gyflawni pob un o'r nodau llesiant a chymryd yr holl gamau rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny. Mae'r ffordd rydym yn gwneud hyn wedi'i nodi yn ein Cynllun gwella corfforaethol.

 

Amcanion Lles Lleol Abertawe

Mae'r Ddeddf wedi sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus (BGC) ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Dyma ffordd i wasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Abertawe.

Mae BGC Abertawe yn gyfrifol am gyhoeddi Asesiad o Les Lleol a phennu Amcanion Lles Lleol mewn Cynllun Lles Lleol 2023-28. Mae'r amcanion lles lleol yn blaenoriaethu sut y bydd aelodau'r BGC yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nodau lles.

 

Fframwaith Lles Cenedlaethol

Mesurir cynnydd cenedlaethol tuag at y nodau lles drwy Ddangosyddion Cenedlaethol a cherrig milltir a osodwyd gan Lywodraeth Cymru fel y gallwn weld a yw pethau'n gwella yng Nghymru ar y cyfan.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Ebrill 2023