Toglo gwelededd dewislen symudol

Dinas Hawliau Dynol

Yn Abertawe, ein nod yw dod yn Ddinas Hawliau Dynol a chydnabod bod hyn yn golygu croesawu gweledigaeth o gymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel wedi'i hadeiladu ar sylfeini hawliau dynol cyffredinol.

Swansea Human Rights logo.
Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bob person yn y byd, o eni tan farwolaeth. Maent yn gymwys ni waeth o ble y dewch, beth rydych yn ei gredu neu sut rydych yn dewis byw eich bywyd.

Ni ellir mynd â nhw oddi arnoch byth, er y gallant gael eu cyfyngu weithiau - er enghraifft os yw rhywun yn torri'r gyfraith neu er lles diogelwch cenedlaethol.

Mae'r hawliau sylfaenol hyn yn seiliedig ar werthoedd a rennir fel urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac annibyniaeth. Caiff y gwerthoedd hyn eu diffinio a'u hamddiffyn gan y gyfraith. Ym Mhrydain, amddiffynnir ein hawliau dynol gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Beth yw Dinas Hawliau Dynol?

Mae Dinas Hawliau Dynol yn ddinas lle mae'r awdurdod lleol, asiantaethau statudol fel yr heddlu, sefydliadau cymdeithas sifil a'r sector preifat i gyd yn gwneud datganiad ac yn ymrwymo i roi hawliau dynol a rhyddid sylfaenol eu preswylwyr wrth wraidd popeth maent yn ei wneud. Mae Dinas Hawliau Dynol yn rhoi'r unigolyn yn y canol.

Y weledigaeth sylfaenol yw cynnwys hawliau dynol mewn polisi, arfer a bywyd lleol, cynyddu ymwybyddiaeth o'r straeon da yn ogystal â thynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella.

Agwedd allweddol ar Ddinas Hawliau Dynol yw cynnwys preswylwyr a gwrando ar eu gwir bryderon. Drwy wneud hyn a defnyddio ymagwedd Hawliau Dynol, gall yr awdurdod lleol ddeall blaenoriaethau preswylwyr a mynd i'r afael â'r problemau hyn yn lleol.

Pam Abertawe?

Rydym am greu dinas lle mae pawb yn gyfartal. Grymuso pobl i ddeall eu hawliau a pharchu hawliau eraill. Cymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Rydym am sicrhau bod pob person, yn enwedig y rheini ar y cyrion ac sy'n gymdeithasol ddiamddiffyn, yn gallu cymryd rhan yn llawn yn y prosesau gwneud penderfyniadau, datblygu polisïau a gweithredu sy'n effeithio arnynt.

Bydd hyn yn creu dinas decach, fywiog, amrywiol a mwy diogel i bawb.

Beth sydd nesaf er mwyn gwireddu'r uchelgais hwn?

Mae llawer o bethau gwych yn digwydd yn Abertawe. Rydym yn Ddinas Noddfa, sy'n falch o fod yn ddinas wasgaru'r Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Rydym yn ddinas sy'n Ystyriol o Ddementia. Rydym yn Ddinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym yn Ddinas Dysgu UNESCO. Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn y ffordd rydym yn pennu'n polisïau.

Ar 10 Rhagfyr, Diwrnod Hawliau Dynol, bydd Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Abertawe ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill yn yr ardal yn lansio'n bwriad i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol ynghyd â chynllun gweithredu 12 mis ar sut byddwn yn cyflawni hyn.

Panel rhanddeiliaid hawliau dynol Panel rhanddeiliaid hawliau dynol

Gwnewch eich addewid

Gallwch gopïo un o'n haddewidion neu greu eich addewid eich hun:

Addewid Sefydliadol

Mae (nodwch enw'r sefydliad) yn cefnogi Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru. Rydym yn deall mai dyma ddechrau'r daith. Croesawn y weledigaeth o gymunedau teg, bywiog a diogel, wedi'u hadeiladu ar sylfeini hawliau dynol cyffredinol lle gall pawb fyw gyda chydraddoldeb ac urddas. Byddwn yn parchu ac yn hybu hawliau dynol yn ein polisïau a'n harferion.

Addewid Unigol

Rwy'n cefnogi Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru. Rwy'n credu yn y weledigaeth o gymunedau teg, bywiog a diogel, lle gall pawb fyw gyda chydraddoldeb ac urddas. Byddaf yn parchu ac yn hybu hawliau dynol eraill.

Gwnewch eich addewid Hawliau Dynol Gwnewch addewid

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni yn hawliaudynol@abertawe.gov.uk

Rhagor o wybodaeth am Hawliau Dynol

Os hoffech wybod mwy am hawliau dynol, mae rhagor o wybodaeth ar wefan Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a gwefan ySefydliad Prydeinig Hawliau Dynol - mae ganddynt ganllawiau hawdd eu darllen ar hawliau dynol hefyd.

Gwnewch addewid

Cefnogwch Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru!

Panel rhanddeiliaid hawliau dynol

Hoffech chi fod yn rhan o'n panel rhanddeiliaid? Cofrestrwch yma i'n helpu i lunio'r agenda hawliau dynol yn Abertawe.

Dull Gweithredu ar Hawliau Dynol

Arweiniad ar gyfer sefdliadau ac awdurdodau cyhoeddus yn Ninas a Sir Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Tachwedd 2024