Datganiad o Fwriad Cymhwysedd Hyblyg ECO4 Cyngor Abertawe
Datganiad o Fwriad ar gyfer ECO4.
Enw'r awdurdod lleol: Cyngor Abertawe
Dyddiad cyhoeddi: 20/06/23
Rhif y fersiwn gyfredol: F.2
Fersiynau wedi'u disodli / tynnu'n ôl
Datganiad o Fwriad Cymhwysedd Hyblyg ECO4 Cyngor Abertawe F1 (tnnwyd yn ôl 19/06/23) (Word doc)
[57KB]
Cyhoeddiad ar y wefan: ECO Flex
Mae'r datganiad hwn yn amlinellu meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4) o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2026.
Bydd y cynllun ECO4 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed. Bydd y cynllun yn gwella'r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon gan eu helpu i gyflawni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero net y Llywodraeth.
Cyfeirir at yr ymagwedd hyblyg y gall Awdurdodau Lleol (ALlau) ei dilyn i nodi aelwydydd sy'n agored i niwed ac sy'n dlawd o ran tanwydd, a all elwa o fesurau arbed gwres ac ynni, fel "ECO4 FLEX".
Mae'r cyngor yn croesawu cyflwyno'r llwybrau cymhwysedd ECO4 Flex gan fod hyn yn helpu'r cyngor i gyflawni'i gynlluniau i wella cartrefi'r rheini sydd mewn tlodi tanwydd neu y gall yr oerfel effeithio'n andwyol arnynt.
Mae [Tîm ECO/Ynni} Cyngor Abertawe'n rheoli fframwaith o osodwyr ECO4 cymeradwy, sy'n caniatáu i osodwyr wneud atgyfeiriadau uniongyrchol i'r cynllun ar gyfer gwiriadau cymhwysedd a llofnodi datganiadau (lle bo pobl yn gymwys). Nid yw'r tîm yn derbyn atgyfeiriadau gan ysgogwyr arweiniol na thrydydd partïon nad ydynt wedi'u hachredu i ymgymryd â gwaith ECO4 eu hunain.
Mae'r cyngor yn cyhoeddi'r Datganiad o Fwriad hwn ar 10 10 2022 i gadarnhau y bydd pob un o'r aelwydydd a ddatganwyd yn cadw at o leiaf un o'r pedwar llwybr a amlinellir isod:
Llwybr 1: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat gydag incwm sy'n llai na £31,000. Mae'r terfyn hwn yn gymwys ni waeth beth yw maint, cyfansoddiad neu ardal yr eiddo.
Llwybr 2: Aelwydydd bandiau E-G y Weithdrefn Asesu Safonol sy'n bodloni dau o'r procsis canlynol:
Procsi 1) Cartrefi yn narpariaeth Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is 1-3 Cymru ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 20191
Procsi 2) Deiliaid tai sy'n derbyn ad-daliad treth y cyngor (ad-daliadau yn seiliedig ar incwm isel yn unig, ac eithrio ad-daliad ar gyfer person sengl.)
Procsi 3) Deiliaid tai sy'n agored i niwed o ganlyniad i fyw mewn cartref oer, fel a nodwyd yn Arweiniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dim ond un procsi o'r rhestr y gellir ei ddefnyddio, ac eithrio'r procsi 'incwm isel'.
Procsi 4) Deiliad tŷ sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd incwm isel.
Procsi 5) Deiliad tŷ a gefnogir gan gynllun a gynhelir gan yr ALl, sydd wedi'i enwi a'i ddisgrifio gan yr ALl fel cynllun sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel ac agored i niwed at ddibenion Arweiniad NICE (ddim ar waith ar hyn o bryd).
Procsi 6) Aelwyd a atgyfeiriwyd i'r ALl am gymorth gan ei chyflenwr ynni neu Gyngor ar Bopeth oherwydd y nodwyd ei bod yn cael trafferth talu biliau trydan a nwy.
*Sylwer nid oes modd defnyddio procsis 1 a 3 gyda'i gilydd.
Llwybr 3: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat y nodwyd gan berson a gofrestrwyd ar y Gofrestr Meddygon Teulu, Bwrdd Iechyd yr Alban, Bwrdd Iechyd Cymru, Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG neu Ymddiriedolaeth y GIG eu bod yn ddiamddiffyn, gyda phreswylydd y gall parhau i fyw mewn cartref oer gael effaith ar ei gyflyrau iechyd. Gall y cyflyrau iechyd hyn fod yn gardiofasgwlaidd, yn anadlol, yn imiwnoataliedig neu'n gysylltiedig â symudedd cyfyngedig.
Llwybr 4: Aelwydydd bandiau D-G y Weithdrefn Asesu Safonol â pherchennog preswyl ac aelwydydd E-G y sector rhentu preifat a atgyfeiriwyd dan Lwybr 4: Targedu Pwrpasol. Gall cyflenwyr ac ALlau gyflwyno cais i ESNZ os ydynt wedi nodi aelwyd incwm isel a diamddiffyn, nad yw eisoes yn gymwys dan y llwybrau presennol (ddim ar waith ar hyn o bryd).
Mae hyn oherwydd mae'r cyngor wedi nodi cydberthynas gadarnhaol rhwng aelwydydd incwm isel sy'n dioddef o gyflyrau iechyd tymor hir, a byw mewn aelwydydd sydd wedi'u hinsiwleiddio'n wael.
1 English indices of deprivation 2019 (gov.uk) (Yn agor ffenestr newydd)
2 Welsh Index of Multiple Deprivation (gov.wales) (Yn agor ffenestr newydd)
3 Scottish Index of Multiple Deprivation 2020 (gov.scot) (Yn agor ffenestr newydd)
Datganiad a chadarnhad o wiriad tystiolaeth
Dylai'r holl aelwydydd y gallant fod yn gymwys wneud cais drwy Ddinas a Sir Abertawe neu un o'u gosodwyr ECO cymeradwy i sicrhau y gallant naill ai elwa o'r cynllun neu gael eu hasesu ar gyfer cymhwystra dan unrhyw raglen berthnasol arall.
Y swyddog isod fydd yn gyfrifol am wirio a dilysu datganiadau a thystiolaeth ategol a gyflwynir ar ran yr awdurdod lleol:
Enw: Julia Owens
Teitl y swydd: Swyddog Ynni a Galluogi
Rhif ffôn: 01792 635047
E-bost: julia.owens@abertawe.gov.uk
Llofnod gorfodol y Prif Swyddog Gweithredol neu'r person cyfrifol dynodedig
Bydd Cyngor Abertawe'n gweinyddu'r cynllun yn unol â Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2022 (Gorchymyn ECO4) a bydd yn nodi aelwydydd cymwys drwy broses ymgeisio Ofgem. Bydd Prif Swyddog Gweithredol y cyngor yn goruchwylio'r broses o nodi aelwydydd cymwys dan ECO Flex.
Caiff yr wybodaeth gymhwystra ei storio'n ddiogel yn unol â pholisi diogelu data'r cyngor, Côd Rhannu Data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac arweiniad BEIS.
Llofnod: Carol Morgan, Pennaeth Adran Tai a Iechyd Y Cyhoedd
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â'r Datganiad o Fwriad hwn, e-bostiwch julia.owens@abertawe.gov.uk