Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffïoedd a chynigion parcio

Manylion ffïoedd a gostyngiadau yn ein meysydd parcio.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ffïoedd parcio ar dudalennau meysydd parcio unigol. Maent hefyd ar gael ar y byrddau prisiau drws nesaf i'r peiriannau talu ym mhob maes parcio.

Gall beiciau modur barcio am ddim mewn mannau parcio beiciau modur dynodedig. Fodd bynnag, os ydynt yn parcio mewn cilfach barcio maint llawn, rhaid i'r perchennog brynu tocyn talu ac arddangos drwy'r ap MiPermit.

Mae pob un o'n meysydd parcio maestrefol am ddim.

Cynnig parcio 1-2-3-4-5 canol y ddinas

Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i holl feysydd parcio canol y ddinas, heblaw am faes parcio De Bae Copr. Byddwch yn talu dim ond £1 am hyd at 1 awr, £2 am 2 awr, £3 am 3 awr, £4 am 4 awr a £5 am hyd at 24 awr.

Meysydd parcio cynnig 1-2-3-4-5 canol y ddinas Meysydd parcio cynnig 1-2-3-4-5 canol y ddinas

Tocynnau trosglwyddadwy'r blaendraeth

Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i nifer o feysydd parcio'r blaendraeth ar hyd arfordir Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Gallwch barcio yn unrhyw un o'r meysydd parcio hyn ar yr un diwrnod gan ddefnyddio'r un tocyn (ar yr amod bod digon o amser ar y tocyn i chi barcio yno).

Meysydd parcio lle gallwch ddefnyddio tocyn trosglwyddadwy'r blaendraeth ar eu cyfer Meysydd parcio lle gallwch ddefnyddio tocyn trosglwyddadwy'r blaendraeth ar eu cyfer

Ffïoedd i breswylwyr

Mae ffïoedd i breswylwyr yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr Abertawe yn unig. Dewiswch yr opsiwn gostyngiad i breswylwyr wrth i chi dalu wrth y peiriant, neu gallwch gyflwyno cais am hawlen pris arbennig i breswylwyr drwy eich cyfrif MiPermit, a fydd yn rhoi'r gostyngiad i breswylwyr i chi'n awtomatig os yw ar gael.

Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i breswylwyr Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i breswylwyr

Deiliaid Bathodyn Glas

Mae nifer o'n meysydd parcio wedi gostwng ffïoedd ar gyfer deiliad Bathodyn Glas neu maent yn caniatáu i ddefnyddwyr barcio am gyfnod hwy.

Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i ddeiliaid Bathodyn Glas Meysydd parcio sy'n cynnig ffi i ddeiliaid Bathodyn Glas

Rhagor o wybodaeth: Gwybodaeth am barcio i bobl anabl

Ffïoedd yn ystod y gaeaf

Mae ein ffïoedd yn ystod y gaeaf yn berthnasol i feysydd parcio'r Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr ymweld â'r arfordir a'i archwilio yn ystod adegau tawelach o'r flwyddyn, am bris rhatach.

Meysydd parcio sy'n cynnig ffi yn ystod y gaeaf Meysydd parcio sy'n cynnig ffi yn ystod y gaeaf

Cynnig parcio a theithio

Gallwch barcio yn un o'n safleoedd am y diwrnod am £1 y car yn unig. Mae hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr i barcio a dal y bws i'r dref.

Parcio a Theithio Ffordd Fabian Parcio a Theithio Ffordd Fabian

Parcio a Theithio Glandŵr Parcio a Theithio Glandŵr

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mehefin 2024