Ffitrwydd ar hyd y Prom
Mae'r llwybr ffitrwydd ar hyd Prom Abertawe'n gylched ymarfer corff sy'n berffaith i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr iach, ymarfer corff yn yr awyr agored neu sy'n teimlo'n anghyfforddus yn y gampfa.
Gellir defnyddio'r cyfarpar hwn ar gyfer amrywiaeth o ymarferion a all wella cydbwysedd, cryfder a chydsymud ac mae am ddim i bawb ei ddefnyddio.
Mae'r cyfarpar yn wych ar gyfer amrywio rhedeg neu gerdded ar hyd y prom wrth weithio ar rannau gwahanol o'r corff. Gallwch hefyd stopio wrth fynd â'r ci am dro.
Mae'r llwybr ffitrwydd yn 4km/2.5 milltir o hyd ac yn mynd o ganol y ddinas i Blackpill. Gallwch ddechrau'r llwybr o'r naill gyfeiriad ac edrychwch am ddisgiau ar y llawr sy'n eich helpu i ddeall pa mor bell rydych wedi cerdded, beicio neu redeg.
Cofiwch nad oes rhaid i chi gwblhau'r cyfan mewn un tro, dechreuwch yn araf a datblygu dros nifer o wythnosau.
Cyfarpar
Peiriant Sgïo Bach
- Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
- Mae'n hyfforddi'r cluniau
- Mae'n helpu i ffyrfhau'r canol, y cluniau a'r morddwydydd
- Mae'n gwella cydsymud cyffredinol y corff
Peiriant Herio Tynnu i Lawr
- Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
- Mae'n hyfforddi'r breichiau a'r ysgwyddau
- Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau rhannau uchaf y corff; y cefn, yr ysgwyddau a'r cyhyrau deuben
- Mae'n gwella hyblygrwydd ac ystwythder cymalau
Eisteddiadau
- Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
- Mae'n hyfforddi'r stumog a'r cefn
- Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau'r abdomen a sefydlogrwydd craidd
Peiriant Cerdded er Iechyd
- Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
- Mae'n hyfforddi cyhyrau'r coesau
- Mae'n rhoi manteision cardiofasgwlaidd a hyblygrwydd ardderchog
- Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau yn y coesau ac yn gwella cydsymud
Peiriant Ymestyn y Coesau
- Gweithgaredd hyfforddi - Ymestyn
- Mae'n helpu i ddatblygu cydbwysedd a hyblygrwydd
- Mae'n ddelfrydol cyn unrhyw ymarfer corff go iawn
Peiriant Gwthio Pwer
- Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
- Mae'n hyfforddi'r cyhyrau deuben a thriphen
- Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau rhannau uchaf y corff; y frest, yr ysgwyddau, y cyhyrau triphen
- Mae'n gwella'r cymalau a chydsymud y corff
Gwthio Dwylo
- Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
- Mae'n hyfforddi'r ysgwyddauMae'n helpu i ddatblygu cydsymud wrth wella hyblygrwydd ac ystwythder y cymalau
Cwch Dolenni (Peiriant rhwyfo)
- Gweithgaredd hyfforddi - Cryfder
- Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau'r cefn, y breichiau, y coesau a'r abdomen
- Mae'n gwella hyblygrwydd ac yn rhoi manteision cardiofasgwlaidd a ffyrfhau i bawb
Pwysig
- Byddwch yn defnyddio'r cyfarpar hwn ar eich menter eich hun. Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf a achosir wrth ddefnyddio'r cyfarpar.
- Peidiwch â defnyddio'r cyfarpar os ydych yn meddwl ei fod yn ddiffygiol neu wedi torri.
- Argymhellir i'r rhai dros 14 oed
- Dylech gael cyngor eich meddyg cyn defnyddio'r cyfarpar ymarfer corff hwn os nad ydych yn iach neu os ydych wedi'ch anafu neu'n feichiog.
- Peidiwch â defnyddio hwn oni bai eich bod yn deall sut mae ei ddefnyddio'n ddiogel.
- Defnyddiwch y cyfarpar at y diben arfaethedig yn unig.
- Ni ddylai unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol ddefnyddio'r cyfarpar.
- Defnyddiwch y cyfarpar â pharch a stopiwch pan fyddwch wedi blino.
I roi gwybod am faterion cynnal a chadw, ffoniwch 01792 280210.