Toglo gwelededd dewislen symudol

Fforwm Mynediad Lleol Abertawe a phenrhyn Gŵyr

Diben y fforwm mynediad lleol yw rhoi llwyfan i gynghori a thrafod gwella a rheoli mynediad cyhoeddus i gefn gwlad yn yr ardal.

Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn mynnu bod pob awdurdod lleol yn darparu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl). Diben y fforwm yw rhoi cyngor a thrafod gwella a rheoli mynediad cyhoeddus i gefn gwlad yn yr ardal. Ystyrir mynediad hamdden o bob math yn ystod trafodaeth yn y fforwm, gan gynnwys cerdded, marchogaeth a beicio.

Dylai aelodaeth FfMLl Abertawe gynnal cydbwysedd rhwng perchnogion tir, grwpiau defnyddwyr a phartïon â budd ac mae'n cwrdd 4 gwaith y flwyddyn. Mae'n rhaid i aelodau ymgeisio eilwaith i ymuno bob 3 blynedd.

Mae aelodau wedi'u dewis oherwydd eu gallu, eu gwybodaeth a'u profiad, i gynrychioli buddion o leiaf un grŵp o ddefnyddwyr mynediad, rheolwyr a pherchnogion tir neu faterion eraill sy'n berthnasol i fynediad fel cadwraeth neu dwristiaeth. Mae aelodau'n cynrychioli eu hunain yn hytrach nag unrhyw sefydliad penodol.

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd arsylwi ym mhob un o gyfarfodydd y fforwm.

Agendâu cyfarfodydd FfMLl

Cofnodion cyfarfodydd FfMLl

Close Dewis iaith