Newidiadau i'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Gwneir unrhyw newidiadau i Hawliau Tramwy Cyhoeddus drwy orchymyn Hawliau Tramwy Cyhoeddus cyfreithiol.
Newidiadau parhaol
Gall perchnogion tir a datblygwyr gyflwyno ceisiadau i wneud y newidiadau canlynol i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus:
- Dargyfeiriad - ailgyfeirio llwybr troed neu lwybr ceffyl er budd y cyhoedd a pherchnogion tir/deiliaid.
- Creu - ychwanegu llwybr newydd at y rhwydwaith, fel arfer gyda chytundeb y perchennog tir (ni yw'r cais hwn ar gael ar hyn o bryd)
- Diddymu - cau llwybr troed neu lwybr ceffyl yn barhaol. Gall perchennog tir gyflwyno cais am hyn neu gall y cyngor ei gychwyn. Mae diddymiadau'n brin iawn.
Gall y cyngor hefyd greu llwybrau newydd, fel arfer gyda chydsyniad perchennog y tir.
Gall unrhyw un gyflwyno ceisiadau i wneud y mathau canlynol o newid, a dylid eu seilio ar dystiolaeth sy'n awgrymu bod angen y newid:
- Addasu - mae hyn fel arfer yn cynnwys ychwanegu llwybrau at y rhwydwaith oherwydd nad yw llwybr cerdded neu lwybr ceffyl ar y Map Diffiniol ond mae tystiolaeth yn awgrymu y dylai fod. Fodd bynnag, gellir gwneud addasiadau hefyd i newid neu ddileu llwybrau cerdded neu lwybrau ceffyl o'r Map Diffiniol.
Newidiadau dros dro
Gall hawliau tramwy gau dros dro i ddiogelu defnyddwyr pan fydd gwaith yn mynd rhagddo yng nghyffiniau'r llwybr neu'n dilyn difrod i'r arwyneb. Mae perchnogion tir fel arfer yn cyflwyno cais ar eu cyfer. Gall y gorchmynion hyn barhau am hyd at chwe mis a gellir eu hehangu ymhellach yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru. Sicrheir bod llwybrau amgen fel arfer ar gael yn ystod y cyfnodau cau hyn.