Toglo gwelededd dewislen symudol

Rwyf wedi derbyn gorchymyn atebolrwydd ar gyfer fy Nhreth y Cyngor

Mae gorchymyn atebolrwydd yn awdurdodiad cyfreithiol a roddir gan lys yr ynadon, sy'n ein galluogi ni (yr awdurdod lleol) i gymryd camau gorfodi i adennill Treth y Cyngor sy'n weddill.

Mae'n cael ei gyhoeddi os na fydd y swm a bennir ar wŷs llys wedi'i dalu o hyd ar adeg y gwrandawiad llys.

Os ydych chi'n gallu talu'n llawn nawr:

Talu eich Treth y Cyngor nawr Talwch e'

Ni allaf dalu

Os na allwch wneud taliad llawn, ystyriwch yr hyn y gallwch ei fforddio a ffoniwch ni ar unwaith ar 01792 635933 (dydd Llun - dydd Gwener, 9.00am - 1.00pm) neu e-bostiwch trethycyngor@abertawe.gov.uk.

Er eich bod wedi colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau ac rydych wedi cael costau ychwanegol, efallai y byddwn yn ystyried gwneud trefniant gyda chi i glirio'r ddyled sydd wedi'i gwysio.

I wirio a oes gennych hawl i unrhyw ostyngiad Treth y Cyngor sy'n seiliedig ar brawf modd, gallwch ddod o hyd i wybodaeth yma: Cyfrifianellau budd-daliadau

I wirio a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw ostyngiadau neu eithriadau eraill ar eich Treth y Cyngor, cymerwch gip yma: Gostyngiadau ac eithriadau Treth y Cyngor

I gael cyngor annibynnol am ddim ar ddyled: Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ganlynol i'ch helpu i ddod o hyd i gynnig fforddiadwy: Cofnod incwm, gwariant a chynilion (ffurflen ymholiad prawf modd) (Word doc, 18 KB)

Cais am wybodaeth

Mae'r gorchymyn atebolrwydd yn rhoi'r pŵer i ni gasglu gwybodaeth ariannol amdanoch chi. Bydd yr wybodaeth hon yn ein galluogi i benderfynu pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd i orfodi talu'r ddyled sy'n ddyledus.

Pan roddir gorchymyn atebolrwydd gan lys yr ynadon, byddwn yn anfon ffurflen 'cais am wybodaeth' atoch. Mae gennych 14 diwrnod o'r dyddiad y byddwch yn derbyn y ffurflen i'w chwblhau a'i dychwelyd atom gyda threfniant talu addas cyn y byddwn yn cymryd camau adennill pellach.

Gall methu â dychwelyd y cais am wybodaeth olygu eich bod yn agored i ddirwy o hyd at £500. Gall darparu gwybodaeth ffug olygu eich bod yn agored i ddirwy o hyd at £1,000.

Camau y gellir eu cymryd i adennill y ddyled

Rydym am i chi gysylltu â ni i wneud trefniant gwirfoddol i dalu eich dyled, cyn i'ch dyled gael ei symud i'r cam adennill nesaf. Fodd bynnag, os nad ydych chi'n gwneud trefniant neu os nad ydych yn gwneud taliadau ar gyfer trefniant, efallai y byddwn yn symud ymlaen ag un o'r camau adennill canlynol, heb rybudd pellach:

1. Didynnu arian o'ch enillion

Pan roddir gorchymyn atebolrwydd i ni, gallwn gyfarwyddo eich cyflogwyr i ddidynnu arian yn uniongyrchol o'ch cyflog a'i dalu'n uniongyrchol i ni. Gelwir hyn yn orchymyn atafaelu enillion.

Rydym yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi a gallwn gael gwybodaeth am eich cyflogwr. Hyd yn oed os byddwch yn cadw gwybodaeth oddi wrthym am eich cyflogwr, efallai y byddwn yn gallu cyflwyno gorchymyn atafaelu enillion yn uniongyrchol i'ch cyflogwr, heb roi rhybudd pellach.

Bydd y swm yn ganran benodol o'r enillion sydd gennych yn weddill ar ôl gwneud didyniadau eraill, fel treth incwm. Mae gan eich cyflogwr hawl i godi tâl o £1 am bob didyniad i dalu'r costau gweinyddu.

I gael manylion ynghylch y symiau y gellir eu didynnu, gallwch ddarllen y canllawiau canlynol i gyflogwyr sydd wedi derbyn Gorchymyn Atafaelu Enillion ar gyfer gweithiwr: Gorchmynion Atafaelu Enillion y Dreth Gyngor - canllawiau i gyflogwyr (Word doc, 149 KB)

Os gwneir didyniadau, bydd yn gyfraniad tuag at yr ôl-ddyledion ar y gorchymyn atebolrwydd yn unig, ac nid yw'n mynd tuag at unrhyw daliadau Treth y Cyngor parhaus a all fod gennych. Mae'n bwysig eich bod yn parhau i dalu'r taliadau parhaus hynny i'ch atal rhag mynd i ddyledion pellach gyda'ch atebolrwydd Treth y Cyngor.

2. Didynnu arian o'ch budd-daliadau

Pan roddir gorchymyn atebolrwydd i ni ac rydych yn derbyn Credyd Cynhwysol / Cymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn, gallwn ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddidynnu'r arian o'ch budd-dal i'w dalu'n uniongyrchol i ni. Nodir y swm priodol gan statud. Gellir gwneud y didyniad hwn os oes lefel ddigonol o fudd-dal yn unig.

3. Defnyddio asiant gorfodi

Pan roddir gorchymyn atebolrwydd i ni, gallwn drosglwyddo'ch dyled i asiant gorfodi (beili), a all ddod i'ch cartref ac atafaelu nwyddau sydd gyfwerth â gwerth y ddyled, ac yna eu gwerthu i dalu'r swm sy'n ddyledus. Os cymerir y camau hyn, mae gan yr asiant gorfodi hawl i godi ffioedd ychwanegol ar eich traul chi.

Os caiff eich dyled ei throsglwyddo i asiant gorfodi, bydd y strwythur ffioedd isod yn berthnasol. Mae'n rhaid i'r asiantiaid gorfodi ddilyn proses 3 cham - gallant godi ffi sefydlog arnoch am bob cam.

Ffïoedd asiant gorfodi (Rheoliadau Meddiannu Nwyddau (Ffïoedd) 2014)

  1. Cam Un: ysgrifennu atoch am eich dyled (cydymffurfiaeth) 
    • Ffi benodol: £75
    • Canran ychwanegol y byddwch chi'n ei thalu am ddyledion dros £1,500):Dim
  2. Cam Dau: ymweld â'ch cartref (gorfodi)
    • Ffi benodol: £235
    • Canran ychwanegol y byddwch chi'n ei thalu am ddyledion dros £1,500):7.5%
  3. Cam Tri: cymryd a gwerthu eich eiddo (gwerthu)
    • Ffi benodol: £110
    • Canran ychwanegol y byddwch chi'n ei thalu am ddyledion dros £1,500):7.5%

Mae'n bwysig eich bod yn ymgysylltu â'r asiant gorfodi ar y cam cynharaf er mwyn osgoi ffioedd pellach.

Unwaith yr anfonir eich cais at asiant gorfodi, bydd angen trafod unrhyw drefniant talu â'r asiant ac nid y cyngor.

Mae rhagor o wybodaeth am yr asiantiaid gorfodi a ddefnyddir gan Gyngor Abertawe ar gael yma: Mae beili neu asiant gorfodi wedi cysylltu â mi ynghylch Treth y Cyngor

4. Gwneud cais am orchymyn arwystlo

Pan roddir gorchymyn atebolrwydd i ni ac nid ydych wedi talu'ch Treth y Cyngor yn llawn o hyd, mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn gwneud cais i'r Llys Sirol am orchymyn arwystlo. Mae hyn yn gosod tâl gwarantedig ar eich eiddo, sydd mewn rhai achosion yn arwain at werthu'ch eiddo dan orfod i dalu'r ddyled sy'n ddyledus. Byddwch hefyd yn atebol am y ffioedd cyfreithiol a'r alldaliadau a godir yn y broses hon.

5. Dechrau achos methdaliad/diddymiad

Os rhoddir gorchymyn atebolrwydd i ni ac nid ydych wedi talu'ch Treth y Cyngor yn llawn o hyd, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn dechrau achos methdaliad yn eich erbyn.

Bydd y weithred hon yn arwain at gostau ychwanegol y byddwch chi'n gyfrifol amdanynt.

Mae angen cymorth ychwanegol arnaf

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, efallai y byddwch chi'n cael eich ystyried yn rhywun sy'n agored i niwed. Os yw hyn yn wir, dylech roi gwybod i ni am hyn pan fyddwch yn cysylltu â ni. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am brawf o'ch bregusrwydd cyn ystyried unrhyw drefniant arbennig gyda chi.

Mwy o gymorth

Gallwch gael cefnogaeth neu gyngor annibynnol gan:

Cyngor ar ddyledion

Cefnogaeth a chyngor am ddim ar reoli dyled i bobl â phryderon ariannol neu sy'n poeni am ddyled.

Gostyngiadau ac eithriadau Treth y Cyngor

Darganfod a ydych yn gymwys i dalu llai o Dreth y Cyngor.

Cysylltu ag adran Treth y Cyngor

Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar-lein.

Help gyda'ch bil Treth y Cyngor mewn amgylchiadau eithriadol

Mewn amgylchiadau arbennig, a lle na ellir cymhwyso gostyngiadau ac eithriadau cenedlaethol, efallai y gallwn leihau atebolrwydd am Dreth y Cyngor mewn perthynas ag achosion unigol neu ddosbarth(iadau) eiddo.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2025