Toglo gwelededd dewislen symudol

Sefydliadau eraill a all helpu pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref

Mae nifer o sefydliadau eraill sydd hefyd yn cynnig cymorth a chyngor i bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Cysylltwch ag Opsiynau Tai a all eich cyfeirio chi neu cysylltwch â'r sefydliadau isod sy'n cynnig help ar gyfer pobl ddigartref.

Caredig

Mae Caredig yn darparu ystod eang o wasanaethau tai ar gyfer pobl sengl, teuluoedd, pobl hŷn a phobl y mae angen cymorth arnynt i gynnal eu tenantiaeth.

Crisis

Elusen genedlaethol ar gyfer pobl ddigartref.

Cymdeithas Dai Pobl

Cymdeithas tai nid er elw sy'n cynnig atebion a chefnogaeth mewn perthynas â thai.

Goleudy (Caer Las yn flaenorol)

Elusen tai yn ne Cymru ydym ni. Rydym yn atal digartrefedd, yn darparu tai ac yn creu cyfleoedd.

Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid BAYS+ Barnardo's

Mae gwasanaeth BAYS+ Barnado's a'r Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc 16 i 21 oed sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref gyda chyngor cyffredinol, tai, gwahaniaethu a budd-daliadau.

Hafan Cymru

Cymdeithas Tai elusennol sy'n darparu llety a chefnogaeth i fenywod, dynion, eu plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Housing Justice Cymru - Citadel

Prosiect atal digartrefedd yw Citadel, sy'n defnyddio gwirfoddolwyr i gefnogi pobl sydd mewn perygl o brofi digartrefedd i ddod o hyd i denantiaethau a/neu eu cadw.

Llamau

Llamau yw'r brif elusen digartrefedd yng Nghymru, sy'n cefnogi'r bobl ifanc a'r menywod mwyaf diamddiffyn.

Missionaries of Charity

Hostel mynediad uniongyrchol (dynion sengl 25+ oed yn unig).

Ogof Adullam

Canolfan galw heibio sy'n cynnig lloches i unigolion sy'n profi digartrefedd a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â darparu pwynt cyswllt ar gyfer y rheini sy'n gadael y carchar a cheiswyr lloches.

Platfform

Platfform yw'r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol. Maen nhw'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, a chyda chymunedau sydd eisiau creu gwell synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw'n byw ynddynt.

Shelter Cymru

Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor annibynnol a chyfrinachol am ddim ar dai a dyled.

Tŷ Matthew

Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe.

Y Wallich

Elusen Gymreig sy'n helpu pobl ddigartref yw y Wallich.
Close Dewis iaith