Casgliad gwastraff gardd
Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu ar eich wythnos werdd.
O fis Rhagfyr rydym yn newid yr wythnosau rydym yn casglu sachau du ac ailgylchu gwastraff gardd: Newidiadau i gasgliadau ailgylchu: sachau du a gwastraff gardd
Ni fydd unhryw gasgliadau ymyl y ffordd gwastraff gardd rhwng 2 Rhagfyr 2024 a 28 Chwefror 2025. Gallwch fynd ag unrhyw wastraff gardd a gynhyrchir yn ystod y cyfnod hwn i'ch canolfan ailgylchu leol neu ei storio / gompostio gartref nes bydd casgliadau'n ailgychwyn.
Er mwyn sicrhau y cesglir eich bagiau ar gyfer ailgylchu:
- yr unig fagiau y dylech eu defnyddio yw'r rhai rydym yn eu darparu.
- rhowch eich bagiau allan i'w casglu ar ol 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a chyn 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
- peidiwch a rhoi mwy na 10 bag gardd allan ar gyfer pob casgliad
- sicrhewch nad yw'ch bag yn rhy drwm (dan 15kg)
- ceisiwch atal eich bagiau rhag mynd ar grwydr trwy ysgrifennu rhif eich tŷ arnynt
- defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch bagiau
Beth i'w roi yn y bagiau
Diolch yn fawr
Gallwch roi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:
- toriadau lawnt
- toriadau llwyni
- dail a phlanhigion
- ffyn a brigau
- blodau a chwyn
- gwelyau anifeiliaid sglodion pren a gwair (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion yn unig)
- coed Nadolig go iawn (wedi'u torri i fyny)
Dim diolch
Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bag gwastraff gardd:
- gwastraff ci a chath
- gwastraff bwyd
- planhigion ymledol, e.e. canclwm Siapan
- canghennau mawr neu foncyffion
- bagiau plastig
- pridd neu compost
- cerrig neu rwbel
- pren ee ffensys, siediau a pystiau