Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am dderbyniadau ysgolion

Rhestr o gwestiynau cyffredin am dderbyniadau i ysgolion.

Beth yw manteision addysg Gymraeg?

Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol Gymraeg ond dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg adref. A fyddaf yn gallu cefnogi fy mhlentyn gyda'i addysg?

Pwy sy'n gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion?

Pwy gall lenwi cais ar ran plentyn?

Beth yw polisi derbyniadau ysgol?

Sut mae pennu pellterau cartref i ysgol at ddibenion derbyniadau?

Oes hawl gennyf gael lle i'm plentyn yn fy newis ysgol?

Sut mae cael gwybod beth yw ysgol dalgylch fy nghyfeiriad?

Sut mae cael gwybodaeth am ysgolion unigol?

Mae fy newis ysgol yn boblogaeidd iawn. Sut gallaf asesu'r tebygolrwydd y bydd lle i'm plentyn?

Fydd fy mhlentyn yn sicr o gael lle yn ysgol y dalgylch?

Sut bydd fy mhlentyn yn teithio i'r ysgol? Ydy Dinas a Sir Abertawe yn helpu i dalu costau cludiant?

Pa mor bwysig yw sicrhau bod fy nghais yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau?

Mae fy mhlentyn yn byw mewn cyfeiriadau gwahanol yn ystod yr wythnos. Pa gyfeiriad dylwn ei roi ar y ffurflen gais?

Beth os byddaf yn symud ty ar ol y dyddiad cau?

Rwy'n byw ger ffin y sir. Ydy awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr un gweithdrefnau a dyddiadau cau?

Beth gallaf ei wneud os na chaiff fy mhlentyn le yn fy newis ysgol?

A fydd fy mhlentyn yn cael ei roi ar restr aros?

A all cynnig lle gael ei dynnu yn ol?

Ydy derbyniad i ysgol yn dibynnu ar y rhiant yn llofnodi'r cytundeb cartref-ysgol?

Beth yw fy nghyfrifoldebau fel rhiant?

Beth sy'n digwydd os bydd yn rhaid i mi symud ty?

A allaf drosglwyddo fy mhlentyn o un ysgol i'r llall heb symud ty?

 

Beth yw manteision addysg Gymraeg?
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma

Hoffwn i fy mhlentyn fynd i ysgol Gymraeg ond dydyn ni ddim yn siarad Cymraeg adref. A fyddaf yn gallu cefnogi fy mhlentyn gyda'i addysg?
Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n mynd i ysgolion Cymraeg yn Abertawe yn dod o gartrefi lle na siaredir Cymraeg. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am addysg Gymraeg yma

Pwy sy'n gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion?
Mae gan yr holl ysgolion awdurdod derbyniadau sy'n gyfreithiol gyfrifol am eu derbyniadau.

Cyngor Abertawe yw'r awdurdod derbyn ar gyfer pob ysgol gynradd ac uwchradd gymunedol yn ei ardal weinyddol. Mae rhai ysgolion yn gyfrifol am eu derbyniadau eu hunain, ac mae'r rhain naill ai'n ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (VA) (ysgolion eglwysig yw pob un ohonynt yn Abertawe) neu'n ysgolion annibynnol. Gweler Trefniadau Derbyn 2024 / 2025 am ragor o wybodaeth.

Pwy gall lenwi cais ar ran plentyn?
Gallwch lenwi cais am le ysgol os mai chi yw rhiant y plentyn, yn unol a'r arweiniad canlynol gan yr Adran Addysg.

Mae diffiniad rhiant yn y Ddeddf Addysg yn cynnwys:

  • pob rhiant naturiol, ni waeth a yw'n briod ai peidio;
  • unrhyw un y mae ganddo gyfrifioldeb rhiant am blentyn neu berson ifanc, er nad yw'n rhiant naturiol; 
  • unrhyw un sy'n gofalu am blentyn neu berson ifanc yn yr ystyr bod y plentyn yn byw gydag ef ac mae'n gofalu am y plentyn, er nad yw'n rhiant naturiol.

Mae bod a chyfrifoldeb rhiant yn golygu derbyn yr holl hawliau, dyletswyddau, pwerau, cyfrifoldebau ac awdurdod sydd gan riant plentyn yn ol y gyfraith.  Mae wedi'i ddiffinio gan Ddeddf Plant 1989.  Mae'n rhoi'r hawl gyfreithiol i rieni wneud penderfyniadau a dewisiadau, megis lle bydd y plentyn yn byw neu'n mynd i'r ysgol.  Os oedd y rhieni'n briod a'i gilydd pan anwyd plentyn, neu os ydynt wedi bod yn briod a'i gilydd ar unrhyw adeg ers cenhedlu'r plentyn, mae cyfrifoldeb rhiant gan bob un ohonynt.

Beth yw polisi derbyniadau ysgol?
Mae polisi derbyniadau'n pennu sut caiff lleoedd ysgolion eu dyrannu.

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol gan awdurdodau derbyniadau i gyhoeddi polisi derbyniadau clir a glynu ato'n fanwl gywir wrth ystyried ceisiadau.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses yn deg ac yn dryloyw.  Gellir gweld y polisi derbyniadau ysgolion cymunedol ac ysgolion a reolir yn wirfoddol drwy'r ddolen ganlynol: Trefniadau Derbyn 2024 / 2025

Sut mae pennu pellterau cartref i ysgol at ddibenion derbyniadau?
Mae'r holl bellteroedd yn cael eu mesur gan ddefnyddio cyfrifiadur.  Gan ystyried y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr cerdded byrraf posib.

Oes hawl gennyf gael lle i'm plentyn yn fy newis ysgol?
Bodlonir dyheadau rhieni (ynghylch eu dewis ysgol ar gyfer eu plant) os yw'n bosibl ac mae mwyafrif y plant yn cael lle mewn ysgol o ddewis eu rhieni.

Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu a oes lle ar gael yn yr ysgol oherwydd nad yw'r ALl fel arfer yn gallu derbyn mwy na Nifer Derbyn yr ysgol.  Mae'n rhaid i bob ysgol dderbyn hyd at eu Nifer Derbyn yn y flwyddyn dderbyn ac ni ddylid mynd uwchlaw'r nifer hwn.  Ni ellir gwarantu lle yn eich dewis ysgol ond, yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o blant yn mynd i'r ysgol a ddewiswyd ganddynt a'u rhieni. Weithiau, nid oes digon o leoedd mewn rhai ysgolion a gelliw gwrthod ceisiadau.

Sut mae cael gwybod beth yw ysgol dalgylch fy nghyfeiriad?
Mae'r rhan fwyaf o blant yn mynychu ysgol eu dalgylch (noder mai'r ysgol hon fel arfer yw'r ysgol agosaf at eich cartref, ond nid bob tro).   Os nad ydych yn siŵr pa ysgol yw ysgol eich dalgylch, ffoniwch yr Adran Addysg yn y Ganolfan Ddinesig ar Trefniadau Derbyn.

Sut mae cael gwybodaeth am ysgolion unigol?
Mae manylion am yr holl ysgolion yn Abertawe ar gael yn: Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol.

Fel arall, gallwch ofyn am brosbectws yn uniongyrchol o'r ysgolion.  Gall ymweliad ag ysgolion hefyd fod yn ddefnyddiol iawn wrth benderfynu pa ysgol yr hoffech i'ch plentyn fynd iddi.  Mae'n bwysig trefnu apwyntiad yn gyntaf.  Mae llawer o ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, yn trefnu diwrnodau a nosweithiau agored.

Mae fy newis ysgol yn boblogaeidd iawn. Sut gallaf asesu'r tebygolrwydd y bydd lle i'm plentyn?
O bolisi derbyn yr ALl, byddwch yn gallu gweithio allan pa mor uchel yw'ch plentyn o ran blaenoriaeth ar gyfer derbyn, yn seiliedig ar y rhestr o feini prawf derbyn. Bydd y Llyfryn Gwybodaeth i Rieni yn dweud wrthych faint o blant y gall yr ysgol eu derbyn ym mis Medi yn ogystal â nifer y plant a dderbyniwyd y llynedd.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi fod ychydig yn ofalus wrth drin y ffigurau am y gallant newid o flwyddyn i flwyddyn.  Er enghraifft, os bydd datblygiad tai newydd yn agor yn nalgylch ysgol fabanod fach, gallai effeithio ar nifer yr ymgeiswyr y tu allan i'r dalgylch y gall yr ysgol eu derbyn.

Fydd fy mhlentyn yn sicr o gael lle yn ysgol y dalgylch?
Ni all Dinas a Sir Abertawe addo lleoedd mewn unrhyw ysgol.

Sut bydd fy mhlentyn yn teithio i'r ysgol? Ydy Dinas a Sir Abertawe yn helpu i dalu costau cludiant?
Darperir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n byw dwy filltir neu fwy o ysgol gynradd eu dalgylch neu dair milltir neu fwy o ysgol uwchradd eu dalgylch. Mesurir y pellter hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y cyngor, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Ddarpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru (Mehefin 2014). Darperir cludiant am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed ynddi. Ni ddarperir cludiant am ddim i blant iau/meithrin).

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am gludiant ysgol trwy: Cludiant i'r ysgol.

Pa mor bwysig yw sicrhau bod fy nghais yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau?
Pwysig iawn!

Os yw'ch cais yn hwyr, bydd ond yn cael ei ystyried ar ol i bob cais sydd 'ar amser' gael cynnig eu lleoedd, a gall hyn olygu bod gennych lai o gyfle o gael lle yn eich ysgol ddewisol.

Mae fy mhlentyn yn byw mewn cyfeiriadau gwahanol yn ystod yr wythnos. Pa gyfeiriad dylwn ei roi ar y ffurflen gais?
I blant teuluoedd hollt sy'n byw rhwng 2 gyfeiriad am fod y rhieni'n byw ar wahân yn barhaol, cymerir y cyfeiriad lle mae'r plentyn yn treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos ysgol fel prif gyfeiriad y plentyn wrth ystyried cais i'w dderbyn.

Mae'n rhaid bod y plentyn yn byw yn y cyfeiriad a roddir ar ffurflen gais yr ysgol ar adeg cael ei dderbyn.  Ystyrir defnyddio cyfeiriadau neiniau a theidiau, perthnasau eraill neu gyfeillion teulu'n dwyll neu'n wybodaeth gamarweiniol.  Gallai hyn arwain at dynnu'r cynnig o le yn yr ysgol o'ch dewis yn ôl.

Beth os byddaf yn symud ty ar ol y dyddiad cau?
Os ydych wedi cyflwyno cais ac yna'n symud i gartref newydd cyn y dyddiad cynnig, dylech gysylltu a Trefniadau Derbyn Abertawe fel y caiff eich llythyr penderfyniad ei anfon i'r cyfeiriad cywir.

Rwy'n byw ger ffin y sir. Ydy awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr un gweithdrefnau a dyddiadau cau?
Nid yw gweithdrefnau a dyddiadau cau pob awdurdod lleol yng Nghymru'r un peth. Os ydych yn byw yn Abertawe ac am wneud cais i ysgol y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe, cysylltwch â'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ysgol honno er mwyn iddynt eich cynghori o'r weithdrefn gywir ar gyfer eu hysgolion. Os ydych yn byw y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe ond am wneud cais am le mewn ysgol yn Abertawe cysylltwch â'r Trefniadau Derbyn.

Beth gallaf ei wneud os na chaiff fy mhlentyn le yn fy newis ysgol?
Caiff rhieni eu hysbysu drwy lythyr a fu eu cais yn llwyddiannus.

Os bydd eu cais wedi'i wrthod, bydd rhieni'n cael gwybod yn ysgrifenedig a chânt yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu lle yn yr ysgol ddewisol.  Mae ganddynt hawl i apelio i banel apêl annibynnol. Os ydynt yn dymuno arfer yr hawl honno, dylent gysylltu â'r Trefniadau Derbyn yn y Ganolfan Ddinesig.

Mae'n rhaid cyflwyno apeliadau am leoedd mewn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol neu ysgolion sefydledig yn uniongyrchol i'r ysgolion perthnasol.

A fydd fy mhlentyn yn cael ei roi ar restr aros?
Caiff rhestrau aros ar gyfer pob ysgol (ac eithrio ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol) eu gweinyddu gan yr Awdurdod Lleol. Os na fyddwch yn llwyddo i sicrhau lle yn eich ysgol/ysgolion o ddewis, yna bydd enw'ch plentyn yn cael ei roi'n awtomatig ar y rhestr aros ar gyfer yr ysgol(ion) honno(hynny). Ni fydd derbyn lle mewn ysgol arall yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros. Os daw lle ar gael yn yr ysgol(ion) o'ch dewis, caiff ei ddyrannu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r meini prawf derbyn, ac nid yn nhrefn y dyddiad y rhoddwyd enwau'r disgyblion ar y rhestr.

Nid oes gan ddisgyblion y mae eu rhieni'n cyflwyno apêl flaenoriaeth dros ddisgyblion eraill ar y rhestr aros. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Bydd angen i rieni sydd am i'w ceisiadau gael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn gyflwyno cais newydd.

Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gorymgeisio gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg.

A all cynnig lle gael ei dynnu yn ol?
Mae'r awdurdod lleol yn cadw'r hawl i dynnu lleoedd yn ol mewn rhai amgylchiadau.

Gellir tynnu lle yn ol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn. Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ol os nad yw'r disgybl bellach yn bwy'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Mae enghreifftiau'n cynnwys lle mae rhiant wedi rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu fwriadol gamarweiniol, megis cyferiad ffug.

Ydy derbyniad i ysgol yn dibynnu ar y rhiant yn llofnodi'r cytundeb cartref-ysgol?
Nac ydy.

Yn ol Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae'n rhaid i bob ysgol a gynhelir roi cytundeb cartref-ysgol ar waith.

Mae'r cytundeb yn pennu nodau ac ethos yr ysgol, ei disgwyliadau ynghylch safon yr addysg, disgyblaeth a gwaith cartref a'r wybodaeth y bydd yn rhaid i'r ysgol a rhieni ei rhoi i'w gilydd.

Drwy lofnodi'r cytundeb, mae rhieni'n dweud eu bod yn nodi nodau, gwerthoedd a chyfrifoldebau'r ysgol a'u bod yn cydnabod ac yn derbyn eu cyfrifoldebau fel rhieni a disgwyliadau'r ysgol o'i disgyblion.  Fodd bynnag, ni chaiff yr ysgol wrthod derbyn plentyn os nad yw'r rhiant yn fodlon llofnodi'r cytundeb cartref-ysgol.

Beth yw fy nghyfrifoldebau fel rhiant?
Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg amser llawn yn ystod y 'blynyddoedd gorfodol'.

Pan fydd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol, mae hyn yn golygu sicrhau bod y plentyn yn mynd iddi'n brydlon ac yn rheolaidd a gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn ymddwyn yn briodol pan fydd yn yr ysgol.  Ni ddylech dynnu'ch plentyn/plant allan o'r ysgol ar gyfer gwyliau teulu neu deithiau tramor estynedig oni bai'ch bod wedi trafod hyn a'r pennaeth.

Mae'r Gwasanaeth lles addysg yn gweithio gydag ysgolion i roi cyngor a help i ddisgyblion a theuluoedd y mae ganddynt anawsterau penodol gyda phresenoldeb.

Beth sy'n digwydd os bydd yn rhaid i mi symud ty?
Symud ty, efallai oherwydd newid swydd, yw'r rheswm mwyaf cyffredin mae angen i blentyn newid ysgol y tu allan i'r amseroedd trosglwyddo arferol.

Ond gall problemau godi os na roddir ystyriaeth fanwl i'r trosglwyddo.

Ni all ysgolion gadw lleoedd, hyd yn oed ar gyfer pobl sy'n symud i'w dalgylch. Felly gall yr ysgol ddalgylch ar gyfer y cartref newydd fod yn llawn. Gallwch wneud cais i'r ysgol o hyd, ond hyd nes y byddwch wedi cyfnewid contractau neu fod gennych gytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi, ni all yr ALl ddefnyddio'ch cyfeiriad newydd i benderfynu ar eich dalgylch. Bydd yn cyflymu'r broses gwneud penderfyniad os ydych yn darparu llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau bod y cyfnewid wedi digwydd, neu gopi o'r cytundeb tenantiaeth.

Mae'n debygol y bydd unrhyw symud ysgol yn ystod Blwyddyn 10 neu 11 yn anodd.  Efallai y bydd problemau oherwydd amrywiadau yn y cwricwlwm ac anawsterau gyda'r grwpiau addysgu mewn rhai pynciau - yn enwedig gwyddoniaeth a thechnoleg - sy'n llawn oherwydd cyfyngiadau ar nifer y disgyblion y gellir eu cael mewn labordai a gweithdai.  Dylech wneud ymholidau trylwyr cyn symud, oni bai nad oes modd ei osgoi o gwbl. Bydd ysgolion yn gwneud eu gorau glas i helpu yn yr amgylchiadau hyn.

A allaf drosglwyddo fy mhlentyn o un ysgol i'r llall heb symud ty?
Os bydd problemau yn ysgol bresennol eich plentyn, mae bob amser yn well ceisio eu datrys yn hytrach na symud i'w dianc.

Os oes lleoedd yn yr ysgol rydych am drosglwyddo'ch plentyn iddi, ni ddylai'r broses fod yn anodd.  Hyd yn oed os yw'r ysgol yn llawn, mae gennych yr hawl i apelio o hyd.  Bydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a'ch rheswm am drosglwyddo a fydd trosglwyddo'n helpu ai peidio.

Close Dewis iaith