Rhagor o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer lles meddyliol
Mae nifer o sefydliadau, lleol ac cenedlaethol, yn darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth ar gyfer iechyd meddwl.
Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia a Dementia Hwb
Mae Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia'n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i bobl sy'n byw gyda dementia.
Adferiad Recovery
Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd yr elusennau sydd wedi uno er mwyn darparu gwasanaethau rhagorol i bobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau'n camddefnyddio sylweddau, a'r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth ac sy'n cyd-ddigwydd.
Adnewyddu Lles
Adnewyddu @ Y Stream: Mannau tawel a rennir, lle mae'n iawn i beidio bod yn iawn.
Anxiety UK
Cymorth dros y ffôn i bobl sy'n byw gyda gorbryder ac iselder sy'n seiliedig ar bryder.
Atgofion Chwaraeon
Elusen a menter gymdeithasol yw Atgofion Chwaraeon sy'n helpu pobl hŷn i gofio, ail-fyw ac ail-gysylltu drwy bŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Bipolar UK
Bipolar UK Ar-lein a thros y ffôn.
CALM (Campaign Against Living Miserably)
Ydym ni, ac rydym yn sefyll yn erbyn hunanladdiad. Mae 125 o bobl yn marw bob wythnos oherwydd hunanladdiad.
CAMHS (CGwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed)
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.
Cartrefi Cymru
Mae Cartrefi yn cefnogi pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, ymddygiadau heriol, pobl hŷn a gofalwyr yn bennaf.
Cefnogaeth Dementia BIPBA (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
Mae'r tîm cymorth dementia ym maes gofal sylfaenol yn Abertawe yn darparu pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n pryderu am newidiadau yn eu hiechyd gwybyddol, hy eu sgiliau meddwl a'u cof.
Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (CES)
Elusen gofrestredig sy'n arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, gyfrinachol ac annibynnol ar gyfer y rhai sy'n gymwys mewn lleoliadau gofal eilaidd ac iechyd meddwl cymunedol.
Cydlynwyr ardaloedd lleol
Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.
- Blaenorol tudalen
- 1
- 2
- 3
- Nesaf tudalen
Addaswyd diwethaf ar 24 Chwefror 2023