Toglo gwelededd dewislen symudol

Rwyf wedi derbyn gwŷs llys am beidio â thalu Treth y Cyngor

Os ydych wedi cael gwŷs llys, talwch y swm llawn sy'n ddyledus cyn y dyddiad llys ac ni fydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Ni chaiff rhagor o gamau adennill eu cymryd yn eich erbyn chwaith.

Talwch Dreth y Cyngor nawr Talwch e'

Pam ydw i wedi cael gwŷs llys?

Nid ydych wedi talu'n unol â'r llythyr atgoffa blaenorol neu'r hysbysiad terfynol a anfonwyd atoch.

Ni allaf dalu

Os na allwch wneud y taliad llawn neu os oes gennych anghydfod atebolrwydd Treth y Cyngor nad yw wedi'i ddatrys, gan gynnwys cais am Ostyngiad Treth y Cyngor heb ei benderfynu, ffoniwch ni ar unwaith ar 01792 635382 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 4.00pm) i weld sut gallwn helpu.

Hyd yn oed os ydych wedi colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau ac rydych wedi cael costau ychwanegol, efallai yr ystyriwn drefnu gyda chi i glirio'r ddyled sydd wedi'i gwysio.

Cofiwch, hyd yn oed os cytunir ar hyn, awn i'r llys beth bynnag i gael Gorchymyn Dyled.

Beth os na wnaf ddim byd?

Gall methu talu na chysylltu â ni arwain at ddefnyddio beilïod neu ddulliau eraill o gasglu Treth y Cyngor sy'n ddyledus. Byddai hynny'n golygu costau ychwanegol y byddai'n rhaid i chi eu talu ar ben yr hyn sydd eisoes yn ddyledus gennych a gall arwain at fynd â nwyddau o'ch eiddo. Byddai hefyd yn effeithio ar eich gallu i gael credyd neu wasanaethau eraill.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2024