Lido Blackpill
Treuliwch brynhawn heulog gyda'r teulu ym mharc dŵr awyr agored Abertawe.
Caiff y teulu ddigon o hwyl am ddim yn Lido Blackpill. Rhaid ymweld â'r Lido pan fydd y tywydd yn braf, gyda'i bwll padlo gwych, ei ardal chwarae i blant, ei wal ddringo a'i gyfleusterau picnic.
Gydag atyniad arobryn Gerddi Clun gerllaw a Bae Abertawe, mae digon i'w wneud i sicrhau diwrnod gwych i'r teulu.
Mae Lido Blackpill ar gau ar gyfer y gaeaf.