Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau llyfrgell i blant a phobl ifanc

Mae croeso i blant o bob oedran ymuno â'r llyfrgell a chymryd rhan.

Gall plant ymuno ag unrhyw lyfrgell neu ymuno ar-lein.

Mae gan bob llyfrgell:

Argymhellir y dylai pob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni rhiant neu ofalwr cyfrifol ar bob adeg wrth ymweld â'r llyfrgell.

Chwilio drwy gatalog y llyfrgell i blant ar-lein (Yn agor ffenestr newydd)

Dechrau Da

Mae Dechrau Da yn ceisio darparu pecyn o lyfrau am ddim i holl fabanod a phlant bach y DU, i ysbrydoli, sbarduno a chreu cariad at ddarllen a fydd yn rhoi dechrau da mewn bywyd i bob plentyn. Ond yn bennaf oll, rydym eisiau dangos bod llyfrau yn hwyl!

Rhoddir pecyn i bob baban rhwng chwech a naw mis oed a phecyn y Blynyddoedd Cynnar i bob plentyn bach tua dwy flwydd oed. Rhoddir y pecynnau gan Ymwelwyr Iechyd.

Os nad ydych wedi cael pecyn ar gyfer eich plentyn, cysylltwch â'ch Ymwelwyr Iechyd neu eich llyfrgell leol.

Clybiau gwaith cartref

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig clybiau gwaith cartref i blant a phobl ifanc i astudio mewn lle diogel a thawel. Bydd cynorthwywyr llyfrgell hefyd ar gael i helpu.

Gwrandewch ar rigymau a chaneuon Cymraeg

Mae Dechrau Da, Llyfrgelloedd Abertawe, Menter Iaith ac Iaith a Chwarae wedi gweithio gyda'i gilydd i gynhyrchu cerddoriaeth Cymraeg, i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal plant a grwpiau eraill sy'n gweithio gyda phlant dan 5 oed yn Abertawe.

Digwyddiadau'r llyfrgell

Digwyddiadau a gweithgareddau yn eich llyfrgell leol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2024