Toglo gwelededd dewislen symudol

Llywodraethwyr ysgolion

Mae dod yn llywodraethwyr ysgol yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gallwch helpu'ch ysgol lleol.

Mae rôl strategol gan y corff llywodraethu wrth gydweithio â'r pennaeth i osod nodau ac amcanion yr ysgol, cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau i gyflawni'r amcanion a monitro a gwerthuso'r nodau a'r amcanion er mwyn hyrwyddo safonau cyflawniad uchel. Y pennaeth sy'n rheoli'r ysgol o ddydd i ddydd.

Fel llywodraethwr ysgol, byddwch yn rhan o dîm. Nid yw llywodraethwyr unigol yn gweithredu ar eu pennau eu hunain. Y corff llywodraethu llawn yn unig sydd â'r dyletswyddau a'r pwerau cyfreithiol ac mae'r holl lywodraethwyr yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol hwnnw.

Mae corff llywodraethu da'n hanfodol i lwyddiant ysgol

  • Mae llywodraethwyr yn penderfynu ar bethau allweddol, megis penodi'r pennaeth.
  • Mae penderfyniadau'r llywodraethwyr yn cael effaith uniongyrchol ar addysg a lles plant.
  • Gall llywodraethwyr wneud gwahaniaeth trwy wella safonau trwy gydol yr ysgol.

Rhaglen hyfforddi a datblygu llywodraethwyr

Mae hyfforddiant yn rhan annatod o ddatblygiad pob llywodraethwr ac mae hwn yn cael ei drefnu a'i gyflwyno trwy raglen hyfforddi flynyddol a hwylusir gan staff arbenigol y gelwir arnynt fel bo'n briodol oherwydd eu harbenigedd penodol.

Sut galla i fod yn llwyodraethwr

Mae ffyrdd gwahanol o gael eich penodi neu'ch ethol i gorff llywodraethu ac mae llywodraethwyr fel arfer yn gwasanaethu am bedair blynedd.

Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe (CCLLA)

Sefydlwyd Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe (y Gymdeithas) flynyddoedd maith yn ol.

Cwestiynau cyffredin am lywodraethwyr ysgol

Rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir i ni.
Close Dewis iaith