Toglo gwelededd dewislen symudol

LMDB - Lleihau maint dosbarthiadau babanod

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo 100% o gyllid gwerth £1,918,750 am bedwar prosiect i leihau maint dosbarthiadau babanod ar gyfer Ysgol Gynradd Penyrheol, Ysgol Gynradd Hendrefoilan, Ysgol Gynradd Seaview ac Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago.

Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Seaview ym mis Tachwedd 2018 ac ar gyfer Hendrefoilan ym mis Mawrth 2019. Cwblhawyd y gwaith ailfodelu mewnol ym Mhenyrheol ym mis Awst 2019 yn barod i'r disgyblion ei ddefnyddio ym mis Medi 2019. Cwblhawyd yr estyniad newydd a'r gwaith ailfodelu mewnol yn Ysgol Gynradd Seaview ym mis Awst 2020 gan agor i'r disgyblion ym mis Medi 2020. Dechreuwyd ar y gwaith o godi estyniad ystafell ddosbarth newydd yn Hendrefoilan ar y safle ym mis Mehefin 2020 a disgwylir i'r gwaith gael ei orffen erbyn canol mis Rhagfyr 2020 fel y gall disgyblion ddefnyddio'r ystafell ddosbarth newydd ym mis Ionawr 2021 ar ôl gwyliau'r Nadolig. Disgwylir i'r estyniad ystafell ddosbarth newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago ddechrau ar y safle ym mis Ionawr 2021 a'i gwblhau erbyn Gorffennaf 2021.

LMDB - Ysgol Gynradd Seaview

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

LMDB - Ysgol Gynradd Penyrheol

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

LMDB - Ysgol Gynradd Hendrefoilan

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

LMDB - Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.