Mathau o ofal plant (wedi'u cofrestru a heb eu cofrestru)
Mae'n rhaid i bawb sy'n darparu gofal plant am dâl i blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Wedi'u cofrestru
Gwarchodwyr plant
Darparwyr gofal plant yw gwarchodwyr plant sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain yn gofalu am blant. Maen nhw wedi'u lleoli yn y gymuned.
Meithrinfeydd dydd
Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant ar gyfer plant o'u genedigaeth hyd nes eu bod yn 5 oed. Fel arfer, maen nhw ar agor o'r peth cyntaf yn y bore tan fin nos, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydol y flwyddyn. Maen nhw'n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel, ysgogol, naill ai fel gofal dydd llawn neu ofal rhan-amser ar gyfer babanod a phlant cyn ysgol. Mae rhai yn darparu gofal cyn ac ar ôl yr ysgol ac yn ystod y gwyliau ar gyfer plant hyˆn hefyd.
Grwpiau chwarae / Mudiad Meithrin
Mae grwpiau chwarae'n darparu'n bennaf ar gyfer plant 2½ i 5 oed, am 2 i 3 awr yn y bore neu'r prynhawn ac yn ystod y tymor yn bennaf. Grwpiau chwarae cymraeg yw Mudiad Meithrin (Yn agor ffenestr newydd) sy'n rhoi'r cyfle i blant ddod yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
Addysg ran-amser ar gyfer plant 3 a 4 oed
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael lle i dderbyn addysg gynnar ran-amser, o safon dda, yn ystod y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed - a hynny'n rhad ac am ddim mewn lleoliad a gymeradwyir. Mae rhan-amser yn golygu o leiaf 10 awr yr wythnos, am oddeutu'r un nifer o wythnosau â'r flwyddyn ysgol arferol. Gall lleoliad a gymeradwyir fod yn ysgol, grwˆ p chwarae, meithrinfa ddydd neu ofalwr plant.
Clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol
Mae clybiau gofal plant y tu allan i'r ysgol yn helpu rhieni sy'n gweithio neu sy'n derbyn hyfforddiant. Maen nhw'n cynnwys clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae dros y gwyliau a gofal cofleidiol ar gyfer plant oedran ysgol.
Cynlluniau chwarae mynediad agored
Mae cynlluniau chwarae mynediad agored yn fannau lle gall plant fynd a dod. Maen nhw'n gorfod cofrestru gydag AGGCC os ydyn nhw'n cynnig gwasanaeth i blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd.
Heb eu cofrestru
Does dim rhaid cofrestru'r opsiynau gofal plant canlynol gydag AGC. (Cofiwch, os byddwch yn defnyddio gofal plant nad yw wedi'i gofrestru na'i gymeradwyo, ni fyddwch yn gallu hawlio cymorth ariannol gan lywodraeth y DU).
- Clybiau a sesiynau llai na 2 awr o hyd
- Au pair
- Gwarchodwyr plant
- Frindiau a pherthnasau.
Mathau o ofal plant (gan gynnwys rhai sydd wedi'u cofrestru / cymeradwyo)
Nid yw'r opsiynau gofal plant canlynol wedi eu cofrestru gydag AGC fel arfer, ond bydd angen eu cofrestru o dan rai amgylchiadau:
- Nani
- Crèche
Cynllun cymeradwyo gofal plant Cymru
Gall unrhyw un, heblaw perthynas agos sy'n darparu gofal plant yng nghartref y plentyn wneud cais i fod yn ddarparwr gofal plant cymeradwy. Er mwyn cael eu cymeradwyo o dan y cynllun hwn, mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant:
- fod yn 18 oed neu'n hyn
- fod â chymhwyster perthnasol. I gael rhagor o gyngor, cysylltwch ag (Care Inspectorate Wales (CIW) (Yn agor ffenestr newydd))
- fod â thystysgrif cymorth cyntaf perthnasol
- fod wedi'u clirio o dan wiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ffoniwch eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) lleol i gael gwybodaeth am gymeradwyo gweithwyr gofal plant yn eich cartref a sut i gael gafael ar unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU yr ydych o bosib yn gymwys i'w dderbyn.
Sylwer bod y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Gofal Plant yn y Cartref (Yn agor ffenestr newydd) yng Nghymru yn gynllun cymeradwy. Er nad yw'n cynnwys cofrestru, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i hawlio cymorth ariannol gan lywodraeth y DU.
Safonau Gofynnol Cenedlaethol
Mae angen i bob lleoliad sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) gydymffurfio â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir presennol. Mae'r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir presennol (Yn agor ffenestr newydd).
Mae'r safonau wedi'u gwneud yn unol ag adran 30 (3) o Ran 2 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae'n rhaid i unigolion sydd wedi cofrestru roi sylw i'r safonau sy'n ymwneud â'r math o ofal a ddarperir.
Gofal plant i bawb
Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (GGD) eich helpu i ddod o hyd i ofal plant sy'n addas ar gyfer anghenion unigol eich plentyn chi yn eich ardal.
Bydd gan y gwasanaeth wybodaeth hefyd am sut y gallwch gael gafael ar help ar gyfer talu'ch costau gofal plant. Mae cynlluniau cyfeirio ym mhob cwr o Gymru yn helpu plant ag anghenion arbennig i fynychu grwpiau chwarae / Mudiad Meithrin (Yn agor ffenestr newydd) gyda phlant eraill yr un oed.
Hygyrchedd
Mae'n rhaid i bob darparwr gofal plant fodloni gofynion Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2010 ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud 'addasiadau rhesymol' i gynnwys plant anabl. Dydyn nhw ddim yn cael trin plentyn anabl yn "llai ffafriol" oherwydd ei anabledd. Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Cymorth Cynghori ar Gydraddoldeb (EASS) ar 0808 800 0082 i gael cyngor neu wybodaeth.