Parc Coed Gwilym
Nodweddion rhagorol
Mae un o'r teithiau cerdded yn dilyn hen lwybr halio Camlas Tawe, lle arferai ceffylau dynnu badau llawn glo i lawr y cwm i Abertawe a oedd, ar un adeg, yn cael ei hadnabod fel 'Copropolis' oherwydd ei phwysigrwydd byd-eang fel canolfan mwyndoddi copr.
Mae canolfan treftadaeth a gwybodaeth ar gael yn y parc, ar hyd y gamlas. Yma y gwelwch linell amser Pentref Clydach o 1794 i'r presennol. Hefyd, mae DVDs, CDs a llyfrau o ddiddordeb lleol yno.
Mae Llwybr 43 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd llwybr halio'r gamlas sy'n cysylltu Abertawe â Chwm Tawe ar lwybr heb draffig. Fel rhan o'r prosiect, gosododd Sustrans fainc portread ar hyd y llwybr yn y parc. Yma y gallwch eistedd am hoe wrth i rywun dynnu llun ohonoch gydag arwyr lleol sydd wedi'u coffau mewn silwetau dur.
Cyfleusterau
- Llwybr BMX yn y coetir
- Lawnt fowlio
- Ardal chwarae i blant
- Cyfleusterau newid
- Llogi canŵ ar y gamlas ar ddydd Sul yn ystod y gwyliau 11.00am - 3.00pm
- Cyfarpar llwybr ffitrwydd
- Meysydd pêl-droed
- Ardal Gemau Amlddefnydd
- Cyfleusterau parcio ar dir y parc
- Cwrt tenis - Cadw cwrt (Tennis Cymru yn y Parc, LTA) (Yn agor ffenestr newydd)
- Llwybrau cerdded
- Coetir
- Canolfan Dreftadaeth Clydach
Hygyrchedd
Mae'r holl fynedfeydd i Barc Coed Gwilym yn hygyrch i bawb.
Cyfarwyddiadau
Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45 gan ddilyn yr arwyddion i Bontardawe. Wrth y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf ar y chwith i Ynys Penllwch (B4291). Wrth y cylchfan nesaf, trowch i'r dde i Heol Pontardawe. Mae mynedfa'r parc ar y dde.
Côd Post - SA6 5NS