Parc Llewelyn
Gallwch fynd â'r ci am dro hamddenol neu ymlacio a mwynhau'r golygfeydd dros y cwm.
Hanes
Ym 1874, rhoddodd John Dillwyn Llewelyn, ffotograffydd enwog o Abertawe, dir ac arian er mwyn sefydlu parc ar gyfer y gymuned leol (gweler hefyd: Llwybr Treftadaeth Parc Llewelyn)
Cyfleusterau
- Ardal chwarae i blant
- Canolfan cymuned
- Cwrs cyfeiriannu
- Cwrtiau tenis
- Llwybr Treftadaeth Parc Llewelyn
Hygyrchedd
Gât 1: Teras Trewyddfa (prif fynedfa) sy'n hygyrch i bawb.
Gât 2: Teras Trewyddfa (mynedfa i gerddwyr) gyda gât 'igam-ogam' sy'n hygyrch i bawb.
Gât 3: Cnap Llwyd, yn hygyrch i bawb.
Gât 4: Cnap Llwyd, yn hygyrch i bawb.
Gât 5: Gellir Aur, yn hygyrch i bawb.
Gât 6: Rhodfa Parc Llewelyn. Ceir gât fochyn sy'n hygyrch i rai grwpiau anabledd.
Cyfarwyddiadau
Wrth adael canol y ddinas ar hyd Heol Castell-nedd, cymerwch y troad cyntaf neu, os ydych yn defnyddio'r ffordd osgoi newydd sy'n mynd heibio Stadiwm Swansea.com, cymerwch yr ail droad o gylchdro Glan-dwr i Heol Cwm Level ac ewch ymlaen i'r ail droad ar y dde, sef Heol Trewyddfa.
Côd Post - SA6 8PB