Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Oes angen mwy o gyfarpar arnoch? Arweiniad ailgylchu a gwastraff i fyfyrwyr

Os rydych yn defnyddio'ch sachau i gyd neu os oes angen bin bwyd newydd arnoch chi, mae'n hawdd i chi ddod o hyd i ragor.

Caiff sachau ailgylchu eu dosbarthu i aelwydydd myfyrwyr ym mis Medi. Pan fydd sachau gwyrdd a bwyd yn mynd yn brin arnoch, cysylltwch y tag a gynhwysir ym mhob rholyn â'ch sach neu'ch bin ar y diwrnod casglu a bydd y timau'n gadael mwy i chi.

Biniau bwyd

Dylai fod gan eich tŷ fin bwyd eisoes yn barod i'w ddefnyddio pan fyddwch chi'n symud i mewn ond os na, gallwch archebu un ar-lein i'w ddanfon.

Mannau casglu sachau ger gampysau'r brifysgol

Pwyntiau melyn = bagiau'n unig
Sêr glas = sachau a biniau gwastraff

Brynmill ac Uplands

  • Tŷ Fulton, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, SA2 8PP
  • Swyddfa Bost Uplands, Uplands News, 4-6, Sgwâr Gwydr, Uplands, SA2 0HD
  • Lifestyle Express, Heol y Brenin Edward, Brynmill, SA1 4LX
  • Kays Convenience Store, 61 Stryd Bernard, SA2 0HS

Mount Pleasant

  • Londis, 49 Stryd Norfolk, Mount Pleasant, SA1 6JQ

Canol y Ddinas

  • Tesco Express, 11-12 De-La Beche Street, SA1 3EZ
  • Co-op, Trawler Road, Marina, SA1 1LB

Gellir casglu sachau a biniau gwastraff bwyd o lyfrgelloedd y cyngor a swyddfeydd tai ardal hefyd.

Rhestr lawn o fannau casglu yn Abertawe

Close Dewis iaith