Sut i ddelio â phroblemau â draeniau neu ddŵr yn eich cartref
Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer delio â phroblemau gyda draeniau a dŵr yn eich cartref.
Problem | Yr hyn y gallwch chi ei wneud | Pwy sy'n gallu helpu |
---|---|---|
Toiledau wedi'u blocio neu wedi'u difrodi | Peidiwch â rhoi unrhyw eitemau yn y toiled ar wahân i bapur tŷ bach. Dylid rhoi gwastraff hylendid personol a chewynnau yn eich sachau du. | Gofynnwch am atgyweiriad tai cyn gynted â phosib. Os yw'r toiled wedi'i ddifrodi, bydd arolygydd yn edrych arno cyn ffonio'r plymwr |
Sinc a bath wedi'u blocio | Gosodwch orchudd twll plwg bach i ddal unrhyw eitemau bach cyn iddynt fynd i lawr twll y plwg. Gall gwallt a sebon achosi problemau. | Gwneud cais am atgyweiriad |
Pibell ddŵr wedi byrstio | Diffoddwch y stopfalf i atal y cyflenwad dŵr. Diffoddwch y system gwres canolog. Diffoddwch y trydan wrth y prif gyflenwad. Diffoddwch unrhyw wresogyddion dŵr. Agorwch yr holl dapiau i bob sinc a bath i ddraenio'r dŵr o'r pibellau. | Atgyweiriadau brys |
Gyli gwastraff cegin wedi blocio | Os bydd gormod o ddail, pridd neu unrhyw wastraff tebyg o gwmpas y gyli, dylech gael gwared arno. Ceisiwch atal blocio'r draen trwy sicrhau nad ydych chi'n rhoi olew, braster a gwastraff bwyd i lawr sinc y gegin. | Gwneud cais am atgyweiriad |
Siambr archwilio wedi blocio neu'n gorlifo | Ceisiwch atal ei flocio trwy beidio â rhoi unrhyw eitemau ar wahân i bapur tŷ bach yn y toiled. Ceisiwch osgoi fflysio'r toiled neu agor y tapiau nes y cynhelir arolygiad. | Atgyweiriadau brys |
Draen neu gyli dŵr glaw wedi blocio | Os bydd llawer o ddail pridd neu unrhyw wastraff tebyg o gwmpas y gyli, dylech gael gwared arno. Gosodwch orchudd ar waelod y bibell i gau ardal y gyli. | Gwneud cais am atgyweiriad |
Llifogydd ar y ffyrdd neu balmentydd | Os bydd llifogydd ar y ffordd neu'r palmant, efallai bod gylïau wedi'u blocio | Dweud am gylïau wedi'u rhwystro neu ffyrdd neu lwybrau sydd wedi gorlifo |
Addaswyd diwethaf ar 09 Chwefror 2023