Prydau ysgol am ddim - rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Dywedwch wrthym os yw eich amgylchiadau'n newid.
Os bydd newid yn eich amgylchiadau personol a allai olygu na fydd gennych yr hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith. Dywedwch wrthym am newidiadau fel:
- dechrau gwaith a gadael y system fudd-daliadau
- os byddwch yn newid i fudd-dal arall
- symud cartref
- os bydd un arall o'ch plant yn dechrau ysgol am y tro cyntaf
- os bydd eich plentyn yn newid ysgol hanner ffordd drwy dymor
Os na ddywedwch wrthym am newidiadau ar unwaith, mae'n bosib y bydd rhaid i chi ein had-dalu am unrhyw brydau bwyd a gymerwyd pan nad oeddech yn gymwys.
Addaswyd diwethaf ar 04 Mehefin 2024