Prydau ysgol uwchradd
Mae gan ysgolion uwchradd ffreutur sy'n darparu dewis o brydau a byrbrydau i ddisgyblion, ac mae'r rhain ar gael yn ystod egwyl y bore ac amser cinio.
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion system ddiarian lle caiff arian neu lwfans prydau am ddim eu llwytho'n fiometrig sy'n galluogi rhieni i dalu trwy siec ymlaen llaw ac am gyfnodau hwy. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn galluogi rhieni i dalu ar y we.
Neu, os bydd yn well ganddynt, gall disgyblion fynd a chinio pecyn i'w fwyta yn yr ysgol.
Am £2.40 yn unig, gallwch ddewis pryd maethlon gan gynnwys pwdin neu botel o ddŵr ac mae digon o brydau ysgafn a byrbrydau iach a blasus ar gael hefyd am lai na £2.40, felly mae digon o ddewis. Mae'r rhan ar gael yn ddyddiol ar gyfer y rhai sy'n bwyta cig a llysieuwyr.
Yn ôl astudiaethau, mae disgyblion yn canolbwyntio'n well os ydynt wedi cael pryd maethlon amser cinio.