Toglo gwelededd dewislen symudol

Perchentyaeth cost isel a pherchnogaeth a rennir

Mae cynlluniau perchentyaeth cost isel a pherchnogaeth a rennir yn rhoi'r cyfle i chi brynu eich cartref eich hun am gost is.

Mae bod yn berchen ar eich cartref eich hun yn rhoi mwy o ddiogelwch i chi na llety a rentir ac yn cryfhau'ch hawliau, ond mae'n ymrwymiad ariannol enfawr.

Ni ddylech ystyried hyn oni bai eich bod yn gallu ei fforddio'n realistig. Mae llawer o fathau gwahanol o forgeisi. Os nad ydych yn talu eich morgais, gallech golli'ch cartref. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech gysylltu ag Opsiynau Tai ar unwaith.

Perchentyaeth cost isel

Mae perchentyaeth cost isel yn eich galluogi i brynu tŷ ar bris gostyngol y farchnad.

Cynlluniau perchnogaeth a rennir

Mae cynlluniau perchnogaeth a rennir yn eich galluogi i brynu cyfran o eiddo.