Gwasanaeth Rheoli Prosiectau a Chefnogi Cyllid Ewropeaidd
Sut gallwn eich helpu cefnogi eich prosiectau.
Gyda mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf ac arbenigedd o ran ariannu, rydym yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i'r rhai sy'n datblygu prosiectau i'w helpu i nodi cyllid perthnasol yn ogystal â darparu 'gwasanaeth grantiau' llawn.
Mae pob rhaglen grantiau yn cynnwys rheolau, rheoliadau, amodau a gweithdrefnau penodol. Pennir amserlenni ar gyfer gweithredu gydag anghenion monitro ac adrodd ar amserau rheolaidd. Felly, yn lle ceisio rheoli'r rhain eich hunain, beth am ystyried cysylltu â ni am drafodaeth ynghylch datblygu pecynnau sy'n addas i chi a fydd yn helpu i reoli a chyflwyno eich prosiectau o'r syniad cyntaf hyd at ddiwedd y prosiect.
E-bost: chyllidallanol@abertawe.gov.uk
Ffôn: 01792 636992
Gallwn eich helpu gyda'r canlynol:
- syniadau am brosiectau
- mynegiannau o ddiddordeb
- datblygu prosiectau
- amodau a thelerau cymhwysedd
- costau cymwys ac anghymwys
- arweiniad costau anuniongyrchol
- nodi ffynonellau ariannu posib
- cwblhau ceisiadau am gyllid
- cydymffurfio â grantiau
- cysylltu â chyrff ariannu
- datblygu strategaethau ariannu
- arweiniad ar themâu trawsbynciol
- monitro a gwerthuso prosiectau a rhaglenni
- cadw cofnodion
- cymorth gwladol
- gwirfoddoli amser fel arian cyfatebol
- arweiniad ar wybodaeth a chyhoeddusrwydd
- archwiliadau prosiectau Ewropeaidd
- archwiliadau prosiectau mewnol
- paratoi ar gyfer diwedd prosiect
Prosiectau rydym yn ymwneud â hwy ar hyn o bryd
Cymunedau am Waith
Mae'r prosiect Cymunedau am Waith sydd wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau â'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithredu fel corff arweiniol gyda Chyngor Dinas a Sir Abertawe'n gweithredu fel corff cyflawni lleol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc NEET rhwng 16 a 24 oed. Hefyd mae'n canolbwyntio ar wella cyflogadwyedd y rhai sy'n 25 oed ac yn hŷn ac sy'n anweithgar yn economaidd, yn ddi-waith yn y tymor hir ac sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Cynnydd
Rydym yn gyd-fuddiolwr prosiect rhanbarthol Cynnydd, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) drwy Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Gyngor Sir Penfro.
Mae Cynnydd yn weithrediad o dan Amcan Penodol 2 Rhaglen Weithredol CGE Gorllewin Cymru a'r Cymoedd 2014-2020. Mae'r prosiect ar gyfer y bobl ifanc hynny (11-24 oed) a nodir fel y rhai mwyaf tebygol o ddod yn NEET (heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) ac yn ceisio lleihau'r risg hon. Mae'n ofynnol cyflwyno gweithgareddau ac ymyriadau penodol i'r dysgwyr/bobl ifanc hyn a nodir. Cadarnhawyd mai hyd y prosiect yw 1 Mawrth 2016 i 28 Chwefror 2023.
Mae cyfanswm o 1,300 o gyfranogwyr wedi'u neilltuo ar draws ysgolion uwchradd ac unedau atgyfeirio disgyblion yn ystod y prosiect yn Abertawe. Yn ystod yr amser hwnnw, deilliannau targed y prosiect yw 56 o gymwysterau i'w cyflawni o ganlyniad i'r prosiect, a 715 yn llai o bobl ifanc mewn perygl o fod yn NEET. Mae Cyngor Abertawe'n rheoli'r broses o gyflwyno'r prosiect mewn ysgolion uwchradd. Mae Coleg Gŵyr yn hyfforddi eu dyraniad ar wahân o bobl ifanc 16-24 oed yn y coleg.
Partneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG)
Nod y bartneriaeth yw ysbrydoli a helpu pobl leol i ddysgu mwy am nodweddion arbennig a gwahaniaethol Gŵyr a sut i'w diogelu. Mae sefydlu partneriaeth tirwedd wedi bod yn arwyddocaol i uno ystod eang o bartneriaid â diddordeb yn y penrhyn i ddatblygu cyfres o brosiectau megis prentisiaethau mewn sgiliau treftadaeth traddodiadol; a chadw nodweddion naturiol ac adeiledig a fydd yn cael effaith sylweddol wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu'r ardal. Mae PTG wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid gwerth £1.3miliwn gan raglen Partneriaethau Tirwedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chyllid a chymorth ychwanegol gan y CDG, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gweithfeydd Copr yr Hafod
Gwnaethom arwain ar ddatblygiad y cais llwyddiannus diweddar am gyllid ar gyfer Menter Treftadaeth i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae Cu@Swansea yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Dinas a Sir Abertawe sy'n ceisio rhoi bywyd newydd i safle hen Waith Copr yr Hafod-Morfa. Yn 2012 cychwynnodd prosiect Cu@Swansea raglen o waith ymarferol i ail-adfer y safle o'i gyflwr diffaith ac i alluogi pobl i ymweld â'r safle ac ailgysylltu ag ef.
Yn dilyn hyn, ym mis Mehefin 2016 ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe roeddem yn llwyddiannus yn ein cais ar gyfer cam nesaf y datblygiad yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG)
Mae'r rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Yn Abertawe mae'r PDG yn darparu'r rhaglen LEADER a arweinir gan y gymuned yn 8 ward cwbl gymwys Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr; a chefnogir y rhaglen yn rhannol yn nhair ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.
Rhagor o wybodaeth: Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG)
Gweithffyrdd+
Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith â thâl i bobl ddi-waith yn y tymor hir i'w helpu i gael eu bywydau'n ôl ar y trywydd iawn. Wedi'i gefnogi gan £21 miliwn o gyllid yr UE a chyllid gan awdurdodau lleol, bydd y cynllun saith mlynedd o fudd i bobl yn ne-orllewin Cymru.
Bydd cefnogaeth yn targedu cyfranogwyr sy'n byw y tu allan i ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf sy'n anweithgar yn economaidd, sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu sydd â rhwystrau cymhleth i'w goresgyn. Bydd Gweithffyrdd+ yn helpu cyfranogwyr i gymryd eu camau cyntaf i ddychwelyd i'r farchnad waith drwy fentora un i un, cefnogaeth gyda chwilio am swyddi a sgiliau cyfweliad, help gydag ysgrifennu CV, y cyfle i ennill cymwysterau newydd ac, i rai cyfranogwyr, y cyfle i gael swydd dros dro â thâl gyda chyflogwr lleol.