Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar stadau cyngor
Os ydych yn denant cyngor neu'n byw ar stad cyngor ac mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnoch, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich helpu i fynd i'r afael ag ef.
Os oes angen ymateb arnoch ar unwaith, ffoniwch yr Uned Cefnogi Cymdogaethau ar 01792 648507. Os yw rhywun yn troseddu, ffoniwch 999.
Does dim rhaid i chi roi eich manylion cyswllt os byddai'n well gennych adrodd am y digwyddiad yn ddienw, fodd bynnag byddai'n helpu gyda'r ymchwiliad. Os ydych yn darparu eich manylion cyswllt, byddwn yn dod yn ôl atoch o fewn 5 niwrnod gwaith ac yn rhoi'r diweddaraf i chi am yr ymchwiliad ac unrhyw gyngor a all fod yn berthnasol.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol