Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu sachau gwyrdd

Gallwch ddefnyddio sachau gwyrdd ar gyfer caniau, gwydr, papur, a cardbord. Byddwn yn eu casglu yn ystod eich wythnos werdd.

Cofiwch y dylid rhoi hancesi papur a cegin yn eich SACHAU DU yn unig. PEIDIWCH â rhoi'r eitemau hyn yn eich sachau gwyrdd - ni ellir eu hailgylchu.

Green recycling bag.
Er mwyn sicrhau y cesglir eich sachau ar gyfer ailgylchu:

  • defnyddiwch y sachau gwyrdd rydym yn eu darparu am ddim
  • rhowch eich sachau allan i'w casglu rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
  • cadwch eich papur a'ch cardbord ar wahân i'r gwydr a'r caniau
  • golchwch y poteli a'r jariau
  • gwagwch a gwastatwch focsys cardbord rhychiog a'u gosod y tu mewn i'ch bag gwyrdd - ni ellir casglu cardbord gwlyb. 
  • defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch sachau

Beth i'w roi yn y sachau

Diolch yn fawr

Rhowch yr eitemau canlynol o wydr a chaniau mewn un sach werdd:

  • poteli a jariau 
  • caniau a tiniau
  • caniau erosol gwag
  • ffoil lapio a hambyrddau alwminiwm
  • eitemau bach o nwyddau cegin metel, e.e. sosbenni a phadellau, hambyrddau pobi etc.
  • caeadau metel

Cadwch yr eitemau canlynol o bapur a cherdyn mewn sach werdd ar wahân:

  • cerdyn
  • catalogau
  • amlenni a post sgrwtsh
  • cylchgronau a papurau newydd
  • carpion papur
  • cardiau cyfarch (cerdyn plaen yn unig)
  • cardbord rhychiog (gwagiwch a gwastadwch bocsys)

Dim diolch

Peidiwch â chynnwys yr eitemau canlynol yn eich sachau gwyrdd:

  • gwydr wedi'i dorri (lapiwch yn ddiogel a rhowch mewn bagiau du)
  • mwgiau, bowlenni a phlatiau cerameg
  • drychau
  • tuniau paent a caniau olew
  • gwydr plât
  • pyrex
  • gwrthrychau metel miniog, e.e. cyllyll
  • tywelion a hancesi papur
  • papur/cardbord wedi'i halogi â bwyd e.e. blychau pizza seimllyd
  • cartonau bwyd a diod neu cwpanau papur
  • papur wal
  • papur lapio

Er nad oes modd ailgylchu'r eitemau hyn fel rhan o'ch casgliad ar ymyl y ffordd, efallai y gallwch eu hailgylchu yn un o'n canolfannau ailgylchu neu yn rhywle arall: Lleoliadau ailgylchu eraill

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Ebrill 2022