Toglo gwelededd dewislen symudol

Sefydliadau marchogaeth

Mae'n rhaid bod stablau sy'n hurio ceffylau neu ferlod i bobl eu marchogaeth neu at ddibenion hyfforddi gael trwydded gennym. Bydd eich mangre hefyd yn cael ei harchwilio'n flynyddol gan swyddog a milfeddyg.

Cyn i ni gyflwyno'r drwydded, bydd swyddog o'r cyngor a milfeddyg yn archwilio'r adeiladau. Mae angen i chi sicrhau bod gennych ganiatâd cynllunio ar gyfer y rhain i gyd cyn gwneud cais.

Ni fyddwch yn cael trwydded os ydych wedi'ch gwahardd rhag cadw sefydliad marchogaeth neu wedi'ch cael yn euog o unrhyw droseddau lles anifeiliaid eraill.

Sut mae gwneud cais

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Bydd ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi bellach ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio gerbron Llys yr Ynadon leol.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw sefydliad marchogaeth.

Arweiniad ar gyflwyno cais am drwydded sefydliad marchogaeth

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am drwydded sefydliad marchogaeth dylech ddarllen yr arweiniad hwn fel eich bod yn gwybod sut mae trwyddedu'n gweithio a'r hyn sy'n ddisgwyliedig gennych.

Cofrestr o sefydliadau marchogaeth trwyddedig yn Abertawe

Mae gennym gofrestr gyhoeddus o'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.