Toglo gwelededd dewislen symudol

Sero Net 2050

Daw'r targed ar gyfer Sero Net 2050 o Gytundeb Paris yn 2015.

Daeth Cytundeb Paris yn gyfreithiol rwymol y flwyddyn ddilynol a hyd yn hyn, mae 192 o wledydd a'r Undeb Ewropeaidd wedi'i lofnodi. Mae'n dweud y bydd newid yn yr hinsawdd yn cael ei gyfyngu i ddim mwy na 2 radd Celsius, ac 1.5 gradd Celsius o ddewis, uwchlaw tymereddau cyn-ddiwydiannol. Darllenwch fwy am Gytundeb Paris ar wefan y CU (Yn agor ffenestr newydd).

Pam mae hyn yn bwysig? Wel, mae gwyddonwyr yn cytuno os yw tymereddau byd-eang cyfartalog yn mynd yn fwy na 2 radd Celsius yna bydd hyn yn gwneud bywyd ar y Ddaear yn anodd iawn i'r rhan fwyaf o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid gan gynnwys bodau dynol.

Mae Cyngor Abertawe yn cymryd y targed hwn o ddifri'. Gwyddwn fod angen i ni arwain drwy esiampl ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gyrraedd ein targed mewnol o allyriadau sero net erbyn 2030. Mae gennym ni yn Abertawe ffordd bell i fynd i gyrraedd sero net 2050 a'r unig ffordd y gallwn wneud hyn yw os ydym yn gweithio gyda'n gilydd.

Abertawe Gydnerth

Creu cymuned wyrddach a chryfach.

Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe

I arddangos ymrwymiad Cyngor Abertawe i ddod yn Abertawe Sero-net, cymeradwywyd Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe yng nghyfarfod y cyngor ar 3 Rhagfyr 2020.

Asesiadau Risg Newid yn yr Hinsawdd

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal asesiad o risgiau a wynebir gan y DU yn sgîl newid yn yr hinsawdd bob 5 mlynedd, sy'n ofynnol o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008.

Mesurwch eich ôl troed carbon

Mesurwch eich ôl troed carbon i weld a ydych ar y trywydd iawn ar gyfer targed y DU o 10.5 tunnell yr un y flwyddyn - mae hynny'n cyfateb i wefru 1,158,700 o ffonau clyfar.

Ein partneriaid amgylcheddol

Mae gennym bartneriaid sy'n gweithio gyda ni i ddarparu prosiectau amgylcheddol ledled Abertawe.

Ffyrdd o helpu

Gwneud y pethau bychain...

Arolwg Newid yn yr Hinsawdd Dinasyddion

Yn gynharach eleni, cynhaliodd Cyngor Abertawe ail arolwg newid yn yr hinsawdd ar-lein mewn perthynas â'r agenda newid yn yr hinsawdd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Tachwedd 2024