Toglo gwelededd dewislen symudol

Banc bwyd Sgeti

Ar agor ddydd Mercher 11.30am - 1.00pm.

Parseli bwyd

Ar agor ar ddydd Mercher o 11.30am - 1.00pm ar gyfer casglu parseli bwyd

Ni fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau am barseli bwyd (dros y ffôn neu e-bost) ar ôl 1.00pm ar ddydd Mercher. Bydd unrhyw geisiadau ar ôl 1.00pm ar ddydd Mercher yn cael eu prosesu'r wythnos ganlynol.

Pwy sy'n gallu helpu

Rydym yn partneru ag asiantaethau cefnogi yn Abertawe sy'n cyfeirio pobl y mae angen parseli bwyd arnynt ar frys atom. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Cydlynwyr Ardaloedd Lleol, Cyngor Abertawe, ymwelwyr iechyd, practisiau meddygon teulu, ysgolion ac eglwysi. Mae'r asiantaethau cefnogi hyn hefyd yn darparu arweiniad a help mewn meysydd eraill fel cefnogaeth iechyd meddwl, arweiniad ar fudd-daliadau neu gyngor ar ddyled.

Er bod yn well gennym weithio drwy asiantaethau cefnogi, rydym yn derbyn pobl nad oes ganddynt atgyfeiriad. Rydym bob amser yn darparu nifer cyfyngedig o becynnau bwyd brys i bobl sy'n galw heibio ond rydym hefyd yn eu hannog i gysylltu ag asiantaeth gefnogi fel y byddant yn cael help ychwanegol hefyd. Os oes banc bwyd arall yn agosach i'r man lle'r ydych yn byw, byddwn yn eich atgyfeirio fan yna.

Os ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd gydag asiantaeth gefnogi, byddant yn archebu pecyn bwyd ar eich rhan. Os oes gennych argyfwng, gallwch ein ffonio'n uniongyrchol neu anfon neges atom ar Facebook. Gallwn awgrymu asiantaeth sy'n gallu darparu cefnogaeth tymor hwy i chi yn ôl yr angen.

Rhoddion

Gall aelodau'r cyhoedd adael rhoddiion yn Eglwys Parklands ar ddydd Mawrth rhwng 4.00pm - 6.00pm a ddydd Mercher 10.00am - 3.30pm. Mae basgedi casglu hefyd yn siop CK's ym Mharc Sgeti, y Co-op wrth Groes Sgeti a'r Co-op yn Nhŷ-coch.

Enw
Banc bwyd Sgeti
Cyfeiriad
  • Eglwys Parklands
  • Maes Y Gollen
  • Sgeti
  • Abertawe
  • SA2 8HQ
Gwe
https://www.skettyfoodbank.co.uk/
Rhif ffôn
07803 818322

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2024