Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopau anifeiliaid anwes

I gynnal busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, mae angen i chi gael trwydded gennym ni. Mae hyn yn cynnwys gwerthu anifeiliaid mewn siop anifeiliaid anwes a thros y rhyngrwyd.

Mae diffiniadau anifeiliaid anwes a siopau anifeiliaid anwes yn amrywiol iawn. Os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded siop anifeiliaid anwes arnoch, e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk

Ni fyddwch yn derbyn trwydded os ydych wedi cael eich gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes, neu os ydych wedi cael eich euogfarnu o unrhyw dramgwyddau lles anifeiliaid eraill.

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid

Mae'n rhaid i chi lenwi pob rhan o'r ffurflen gais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. Bydd ffi i dalu am ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Ffïoedd

Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid Ffioedd am drwyddedau anifeiliaid

Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.  Bydd gofyn i chi dalu ffi ychwanegol ar gyfer ymweliad y milfeddyg yn dilyn yr ymweliad hwnnw.

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'u hanfon gyda'ch ffurflen wedi'i llenwi.

 

Caniatâd Dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo neu sydd am apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i drwydded apelio gerbron Llys yr Ynadon leol.

Cyflwyno cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am drwydded i gadw siop anifeiliaid.

Cwestiynau cyffredin am siopau anifeiliaid anwes

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am siopau anifeiliaid anwes.

Nodiadau i geidwaid siopau anifeiliaid anwes

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes dylech ddarllen yr arweiniad hwn fel eich bod yn deall sut mae trwyddedu'n gweithio, a'r hyn sy'n ddisgwyliedig gennych fel ceidwad y siop anifeiliaid anwes.

Cofrestr o siopau anifeiliaid anwes trwyddedig a'r hyn y gallant ei werthu

Mae gennym gofrestr gyhoeddus o'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021.
Close Dewis iaith