Toglo gwelededd dewislen symudol

Mathau o dai sydd ar gael os ydych yn ddigartref

Pa fathau o dai y gellid eu cynnig os ydych yn ddigartref ac yn gymwys i gael cymorth.

Llety dros dro

Os ydych yn ddigartref yn anfwriadol, ag angen blaenoriaethol a bod gennych gysylltiad lleol ag Abertawe, mae gennym ddyletswydd i ddarparu llety dros dro.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i ni hefyd ddarparu llety dros dro i chi wrth i'ch Gweithwyr Achos Digartrefedd barhau i asesu eich cais (i benderfynu p'un a ydych yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth ac ag angen blaenoriaethol).

Os oes gennych angen blaenoriaethol, efallai y cewch lety dros dro wrth i ni ymchwilio ymhellach i'ch achos.

Gallai llety dros dro fod yn:

  • llety gwely a brecwast
  • llety annibynnol hunangynhwysol
  • llety dros dro â chymorth

Bydd yn addas ar gyfer anghenion eich cartref.

Tra byddwch mewn llety dros dro, byddwn yn cadw mewn cysylltiad agos â chi i gynnig cymorth i chi gyda'ch opsiynau tai, i sicrhau bod rhent yn cael ei dalu'n gyfredol a'ch bod yn cadw at amodau'r ddeiliadaeth.

Gwasanaethau cymorth ailgartrefu cyflym i bobl mewn llety dros dro

Gall cymorth ailgartrefu cyflym eich helpu i baratoi a dod o hyd i gartref newydd pan fyddwch mewn llety dros dro.

Pan fyddwch yn byw mewn llety dros dro gall fod yn anoddach cadw ar ben eich budd-daliadau, cael prydau bwyd bob dydd, delio ag unrhyw anghenion iechyd sydd gennych, a pharhau â chyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Gall dod o hyd i gartref ac ymgartrefu ynddo fod yn anodd heb gefnogaeth i oresgyn rhai o'r heriau hyn.

Bydd gweithiwr Cymorth Ailgartrefu Cyflym yn cysylltu â chi yn eich cartref dros dro i siarad am yr hyn sy'n bwysig i chi wrth i chi symud i mewn i'ch cartref newydd. Gall hyn gynnwys dod o hyd i gelfi, delio â newidiadau i'ch budd-daliadau, neu gofrestru gyda meddyg teulu. Efallai y byddant hefyd yn dod i weld eiddo gyda chi ac yn eich helpu i gysylltu â landlordiaid preifat yn ogystal â'ch helpu i sefydlu'ch biliau yn eich cartref newydd.

Os ydych eisoes mewn llety dros dro, gall eich Gweithiwr Achos Digartrefedd Opsiynau Tai eich cyfeirio at Gymorth Ailgartrefu Cyflym. 

Llety parhaol

Ein nod yw eich helpu i ddychwelyd adref neu ddod o hyd i rywle i fyw, a all gynnwys:

  • tai cyngor
  • tai gyda chymdeithas dai
  • tai rhentu preifat
  • tai â chymorth

Bydd ein dyletswydd i'ch helpu yn dod i ben os ydych:

  • yn derbyn cynnig o denantiaeth barhaol gan y cyngor
  • yn derbyn cynnig o denantiaeth cymdeithas dai
  • yn derbyn cynnig o denantiaeth yn y sector rhentu preifat
  • yn gwrthod cynnig o lety addas  
  • yn gadael llety dros dro
  • yn methu â chydweithredu â'ch cynllun tai

Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i apelio o fewn 21 diwrnod os ydych yn anghytuno ag addasrwydd y llety a gynigir i chi.
Er ein bod yn asesu addasrwydd y cynnig, efallai y byddwn yn parhau i ddarparu llety dros dro i chi.

Os rhoddir tenantiaeth i chi yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth anwir neu gamarweiniol yr ydych wedi'i darparu, efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i ddod â'r denantiaeth i ben.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2022