Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith gerdded Parc Coed Gwilym

Pellter: 1.7 milltir /2.7km

Mae'r daith gerdded hon yn mynd â chi ar hyd llwybr halio Camlas Abertawe. Wrth i chi gerdded yn yr amgylchedd tawel, bydd yn anodd i chi ddychmygu'r adeg pan oedd y gamlas yn brysur gyda chychod camlas a dynnwyd gan geffylau'n cario glo i lawr y cwm i Abertawe, a fu ar un adeg yn brifddinas mwyndoddi copr y byd, gan ddwyn yr enw 'Copropolis'. Mae llwybr graean ar hyd y gamlas sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn pan fo'r tywydd yn sych.

Mannau cychwyn a gorffen y daith

Maes parcio ym Mharc Coed Gwilym

Sut i gyrraedd

Maes parcio Parc Coed Gwilym a safle bws gerllaw

Cyfleusterau

Mae'r daith gerdded yn wastad ac mewn tywydd sych mae'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Does dim meinciau na thoiledau ar y daith hon

Taith gerdded Parc Coed Gwilym (PDF) [219KB]